Sioned Medi Howells o New Inn ger Pencader yw Prif Lenor Eisteddfod T 2021, gyda darn o waith sy’n “gadael y darllenydd yn ysu am fwy” yn ôl y beirniad a’r awdur, Caryl Lewis.

Daeth 70 o geisiadau i law, a’r rheiny yn amrywio o straeon byrion i ymsonau, llythyrau, a phenodau cyntaf nofelau.

Fe wnaeth Caryl Lewis ddatgelu mai Sioned, sydd ar fin cwblhau ei blwyddyn olaf yn astudio cwrs bydwreigiaeth ym Mhrifysgol Abertawe, oedd yn fuddugol yn ystod seremoni arbennig a gafodd ei darlledu’n fyw o Wersyll yr Urdd, Llangrannog.

Ar hyn o bryd mae Sioned yn brysur ar leoliad gwaith ar ward geni yn Ysbyty Singleton yn Abertawe.

Mae eleni wedi bod yn flwyddyn gynhyrchiol a llwyddiannus iawn iddi, gan ei bod hi wedi cipio’r goron a’r gadair yn Eisteddfod Clybiau Ffermwyr Ifanc Sir Gâr 2021 hefyd.

Bydd Sioned yn derbyn tlws wedi ei greu yn arbennig gan y cerflunydd Ann Catrin Evans, ac roedd y beirniad yn uchel iawn ei chanmoliaeth tuag at y gwaith buddugol.

“Mae’r ysgrifennu yn llifo fel bod yr awdur yn diflannu a’r darllenydd yn cael ei gyrchu’n syth at galon y stori,” meddai Caryl Lewis.

“Stori am y cyfnod clo yw hi. Stori sy’n gorfodi’r cymeriadau ynddi i wynebu digwyddiad trawmatig o’u gorffennol. Mae’r llinell ola’n drydanol ac yn gadael y darllenydd yn ysu am fwy.”

Huw Griffiths o Efail Isaf, Rhondda Cynon Taf, ddaeth yn ail, a Ciarán Eynon o Landrillo-yn-Rhos, Conwy, enillodd y drydedd wobr.

  •  Gallwch ddarllen y gwaith ddaeth i’r brig, isod. 

Cystadleuaeth y Prif Lenor

Y gwaith ddaeth i’r brig yng nghystadleuaeth y Prif Lenor eleni