1. Sioned Medi Howells, Aelod Unigol, Ceredigion

Ifan bach

Damo. Dylsen i di stopo am betrol neithwr. Ma’ na ddou math o berson yn y byd ‘ma – ma’r bobol ‘na sy’n panico cyn gynted ma’r tanc yn cyrra’dd hanner ffordd, a’r hanner arall fel fi sy’n gadel i’r gole fflasho am sbel cyn llanw fe. Odd y weipyrs yn mynd fflat-owt yr holl ffordd i Gaerfyrddin. Dyma’r union ru’n dywydd odd pum mlynedd nôl i heddi, fi’n cofio.

“Ma nhw’n sôn am llacio’r lockdown fyd”, medd y receptionist bore ‘ma. Ma rhywun yn blino ar glywed y newyddion, fi di stopo gryndo a bod yn onest a stico i wylio’r un hen rybish ar Netflix. Er prin fi’n gwylio teli o gwbwl dyddie ma. Codi, gwaith, gytre, cysgu, codi, gwaith…

“Hanna, ti’n iawn i gymryd stafell un ‘de? Af i a stafell dou wedyn a gei di Tracy stafell tri?” Ha typical Sara, cymryd y stafell â lleia o waith.

“Ie iawn ’da fi”

“Reit af i roi tegyll mlan, fi ffili neud dim heb goffi bach yn y bore”

Na, a sdim lot o waith ‘da ti wedyn Tracy fach… Ma Tracy’n un o’r bobol na sy’n roi popeth ar Facebook – be gath hi i gino, pa mor llwyddianus yw hi a’i homeschooling, a hyd yn od updato ni gyd bod Doris drws nesa yn teimlo’n well wedi iddi hala cwpwl o gacs draw iddi. Fi’n shwr bydde cacs Tracy neud rhywun clôff i gerdded ‘to – neu dyna beth bydde hi’n weud ta beth. A ma’ ddi’n un o’r bobol ‘na sy’n rhoi ‘#NHShero’ ar ddiwedd bob statws, just i neud yn shwr bod pawb yn gwbod bod hi’n gweitho mor fflipin galed.

Do’n i ddim arfer bod fel hyn. Pan o’n i’n teenager, o’n i wastad yn meddwl bod pobol yn ‘i tri-dege yn gwbod beth o’n nhw’n neud, bo’ nhw actually’n neud pethe fel wotcho ‘This Morning’ a dreifo rownd mewn Audi’s a phriodi a chal plant… Ond wedyn chi’n sylweddoli bod bywyd yn gallu bod yn uffernol o shit ar adege. Ma’ fe’n galed disgrifio’r boen. Dyw e ddim fel poen o dorri braich neu’r boen o fwrw dy fys bach yn erbyn coes y ford, ma’ fe’n wahanol fath o boen. I fod yn onest, ma’ fe jyst fel gwacter tu fewn i ti, jyst llusgo dy hunan mas o’r gwely bob dydd, i fyw bywyd ti ddim reli ishe byw.

Odd lot gwell da fi weithio ar y labour ward, fi ddim yn ca’l yr un pleser o helpu John rhoi ‘i slippers e nôl mlan na newid dillad gwely Sheila wedi iddi ga’l damwain arall. Ond do’dd dim dewis da fi…

“Han, ti’n rhydd am eiliad? Ti fodlon helpu fi i bwsho gwely tri draw i X-ray plis?”

Bydde ishe fwy nag un eiliad rhydd i bwsho gwely yr holl ffordd lawr i X-ray, ond dyw Tracy ddim yn un am jôcs.

****

O’dd Steff ‘whare teg di wso’r ‘chydig sgilie cwcan na sda ge i neud bîns ar dost erbyn bo fi gytre. Ma’ fe’n trial. Ma’r ddou o’n ni’n trial. Trial cuddio bod hyn i gyd ddim yn ein poeni ni. Yn ein byta ni’n fyw.

Iasu, fi’n edrych yn agosach i hanner cant da’r wrinkles ma. Ma’n shwr mai rhyw gymysgedd o’r gwaith, ffeili cysgu, stress a galar sy’n achosi fe. O’n i’n arfer joio neud fy ngholur, ond wrth weld be sy’n pipo nôl arnai yn y drych, ma’r pleser wedi mynd. Oleia bod tipyn bach o mascara a concealer yn cwato peth o’r pechode’. Rhoi ffling nôl i’r drar i’r wipes, tan fydd angen nhw nos fory ‘to.

Ma Steff yn cysgu’n iawn, ond finne’n cal lot fwy o drafferth. Fi’n gwbod bod e’n cysgu’n iawn achos ma’ fe’n chwyrnu digon. Ond o’n i’n gwbod bod e arddihun heno.

“Fydde Ifan di bod yn bump heddi”

“Fi’n gwbod” medden i. Do’n i ddim wedi anghofio, allen i fyth anghofio. Dylsen i di bod gytre heddi, ddim yn gweitho. Dylsen i di treulio’r dyrnod da Steff, bod gyda’n gilydd. Ond dy’n ni ddim fel na rhagor. Elon ni drwy amser tywyll, a do, fe helpon ni’n gilydd drwyddo fe. Er dyw’r un ohonon ni wedi mendio’n iawn, fyddwn ni byth yn iawn ‘to…

“Fi ffili cysgu”

Ma’ fe’n codi mas o’r gwely a gwisgo’i got dros ei byjamas.

“Lle ti’n mynd?”

“I weld Ifan. Allwn ni ddim byw fel hyn Han.”

Ma’r boen yn ei lais e’n ddigon i dorri calon. Codes inne’ mas o’r gwely a gwisgo cot. Pâr o wellies mlân ‘fyd. Ro’dd Steff ar ‘i linie ar bwys Ifan, ac wrth gerdded yn agosach allen i weld y dagre’.

Ifan Arwel Griffiths.

04.04.2016.

Oh my god. Ma’ hi’n fis Ebrill. Shwt allen i ddim wedi sylwi?

“Steff… fi’n hwyr”.

***

2. Huw Griffiths, Ysgol Gyfun Garth Olwg, Morgannwg Ganol

Omri, Frenin Maerdy

Buon ni’n brysur yn rhedeg trwy’r caeau ac yn dawnsio ac ysgrechian fel ffyliaid am sbel fach. Ar ôl ffeindio’n ffordd trwy gaeau Mwgs Ffarm, fe ddaethom i hyd i’r man ar lan yr afon a fu’n fath o hafan i’r ddau ohonom ers meitin bach.

Yno, fe geisiais i ddangos i Omri sut mae gwneud twhit-tw-whoo’r dylluan frech gyda’r dwylo, ond roedd e’n ffaelu oherwydd roedd e’n gadael bwlch aer gormodol rhwng blaenau ei fodiau. Ceisiais i esbonio sut i’w wneud yn gywir, ond doedd e ddim yn gallu deall, a’n amlwg yn teimlo’n rhwystredig, felly rhoes i’r gorau iddi.

Wedyn, chwaraeon ni cowboisacinjyns am ychydig, cyn sylweddoli nad oedd hi’n gêm mor dda i chwarae gyda dim ond dau berson. Ro’n i fel arfer yn ei chwarae hi gyda môr o bobl amser chwarae ac amser cinio yn yr ysgol. Roedden ni’n dewis pwy oedd y Cowbois a phwy oedd yr Injyns a phwy oedd yn arwain y ddau dîm, ac yna, i ffwrdd a ni! Ro’n i’n dwlu pan mai fy nhro i oedd hi i arwain catrawd o Indiaid Cochion, a byddwn i’n esgus bod yn Tsîff Sitting Bull, ac roedd Omri’n hoff o arwain catrawd o gowbois, efe’n esgus bod yn Jenryl Custer.

Felly, daeth y gêm i ben yn fuan. Aeth hi’n dawel iawn. Roedd y Rhondda Fach yn rhedeg yn brysur gerllaw; roedd brân anweledig yn bloeddio’n amhersain yn y coed. Eisteddon ni ar foncyff coeden wedi torri’n hanner ar bwys y nant.

“Gafodd y goeden draw yn my’na ‘i tharo gan fellt rywbryd,” llefarais wrth Omri. Ni ddaeth ymateb. Roedd e’n rhy brysur yn syllu i ddŵr yr afon â golwg ód arno. Roedd ei lygaid yn edrych yn ddifywyd, ac roedd e fel petai wedi’i ymgolli mewn swyngwsg.

Gwerthusais y sefyllfa. Roedd yn rhaid gwneud rhywbeth – doedden ni ddim wedi sgeifio o’r ysgol er mwyn eistedd ac ystyried megis athronwyr dirfodol. Penderfynais ei fod hi’n amser chwarae sgimio cerrig. Codais a rhoi amser i Omri ddadebru. Gwnaeth splosh cacoffonig fy ngharreg gyntaf, wrth iddi dreiddio arwyneb yr afon, gynhyrfu Omri ychydig a llwyddo i’w ddadmer.

Gwyliais i’r garreg yn cael ei llowcio gan ddŵr gloyw’r afon ar ôl iddi lwyddo bownsio rhyw dri o weithiau. Digon da am sgim cyntaf y diwrnod, meddyliais i.

Hoeliodd Omri ei lygaid ar y cylchoedd a adawyd gan fy ngharreg, y crychiadau’n ymddangos fel trobylliau dramatig. Gwyliodd Omri fy ngherrig yn dechrau sgimio’n well – saith, wyth, naw gwaith ar hyd y dŵr – a dim ond pellter o ryw chwe metr oedd hi cyn iddynt gyrraedd glan yr afon a chael eu rhwystro! Chwyddodd fy mrest gyda balchder.

Yna, cododd Omri ar ei draed a dechrau chwilio’n drwsgl am gerrig i’w sgimio. Ar ôl ffeindio dwsin ohonynt, dechreuodd eu taflu nhw i’r dŵr yn ofalus. Roedd ef wrthi’n ystyried yr onglau optimwm mathemategol cyn pob tafliad, bid sicr. Ar ei wyneb roedd difrifwch megis difrifwch feistr gwyddbwyll yn plotio’i symudiad nesaf ym Mhencampwriaeth y Byd.

Dechreuodd Omri siarad i’w hun, yn mwmian yn isel brawddegau tawedog fel:

“Reit, ugain gradd sy’ angen. Ugain gradd.”

Ond, er yr holl gonsidro a myfyrio damcaniaethol y gwnâi, nid oedd Omri yn cael llwyddiant o gwbl. Arferai Omri fy nghuro i bob tro y bydden ni’n chwarae sgimio. Lluchiai’r cerrig llyfnion yn esmwyth i’r dŵr â’r hyder a dihidrwydd hynny a berthyn i’r arbenigwr yn ei grefft, i’r athrylith. Ond heddiw, doedd ei gerrig ef ddim yn bownsio mwy na dau neu dri o weithiau ar arwyneb y dŵr, cyn suddo’n ddi-urddas i wely’r Rhondda Fach. Sylwais ar hyn, a lleisio awgrym iddo:

“Hei, Omri. Angen ffeindio rhai mwy fflat, wyt ti, gwboi,” gan afael mewn dyrnaid o gerrig llyfnion, siarp fel blaenau saethau fflint, ger fy nhraed. Estynnais hwythau iddo. Ond ni wnaeth unrhyw osgo derbyn y rhodd drugarog hon; ni chymerodd unrhyw sylw. Roedd e fel nis llefarwyd gair gennyf.

Sefydlwyd rhyw fudandod rhyfedd ar ôl hynny. Parhaom i sgimio’n cerrig, ond yn llawer llai egnïol. Dwyshaodd y mudandod o’n hamgylch, ac fe ddaeth yn ormesol. Yr unig sŵn a dreiddiai’r distawrwydd ydoedd llif prysur yr afon a sŵn ein cerrig yn chwalu’r dŵr fel ffrwydradau.

Parhaodd Omri i daflu ei gerrig yn llipa dros y nant.

Ro’n i wedi cael digon erbyn hyn. “Gwranda, ni ffili chware sgimio’n iawn gydag afon fach fel sy’ yma,” datganais â chadernid, llesteiriant yn symbylu oerni yn fy llais, gan orymdeithio’n ôl i eistedd ar foncyff y goeden friwedig. Rhegais dan fy anadl. Daeth Omri wedyn, a throedio’n bwyllog yn ôl o lan yr afon. Eisteddodd. Roedd ei lygaid yn sgleinio, ac roedd sain y nant yn rhedeg yn aflafar. Daeth y mudandod rhyngom i’n gormesu’r eilwaith. Gorthrymwyd hefyd synnau Natur gan y tangnefedd llethol rhyngom: bu ennyd ar ôl ennyd, myfi’n ceisio peidio edrych ar wyneb Omri.

Arhosom fel hyn am hir, ac wedyn edrychais ar fy oriawr.

Roedd hi’n tynnu at dri o’r gloch.

***

3. Ciarán Eynon, Aelod Unigol, Conwy

Nel

Mae prydferthwch ail i Eden

Yn dy fynwes…

Mae o yn `y nghlust i bob munud. Yn sŵn ffôn yn canu. Yn sŵn cipio’r goriadau o’r bachyn. Yn sŵn refio’r car wrth adael y tŷ.

Dwi’n gwbod fod o’n darllen y geiria’ `ma – yn hawlio pob sill fel beiliff yn cymryd y dodrefnyn ola’. Pob gair yn gorfod talu’i le.

Fedrai’m sgwennu bob dim ddigwyddodd yn fan hyn. Dwi’m isho chwaith. Ma’ ’na betha’ fedar fyth weld gola’ dydd. Nai’m gwerthu’r nos i neb.

* * *

Roedd hi’n ddiwrnod tanbaid a breichia’r haul yn cosi’r caea’.

Dwi’n cofio syllu draw ato tu ôl i lyw’r car a gweld pelydrau Awst yn golchi amdano.

Pob un â’i gyfeiriad a’i annel ei hun. Deimlis i rwbath mwy na gwres ar `y ngrudd y diwrnod hwnnw. Rwbath ym mêr f’esgyrn. Balchder dwi’n ama’. Yn fy hun. Am neud hi’n bosib i `ngharu i. Am unwaith, digoni yn yr hyn oedd gen i.

“Da’ ni’n ddigon o dryst i gal ci tydan?” medda fo.

“Ydan, siwr,” medda fi’n ôl, yn dechra ama’ fod o’n ca’l traed oer.

O ni’n gwbo fod o `di dotio. `Di mopio yn ei ffordd ryfedd ei hun. A beth bynnag, fi benderfynodd ga’l ci yn y lle cynta.’ Fi odd wastad yn gwthio’r cwch i’r dŵr: fi ofynodd am y date cynta’; fi odd yn codi’r ffôn pan odd y milltiroedd rhyngon ni’n faith. A fi odd yn anfon cardyn yn chwdu’n nheimlada’ heb wbod yn iawn os odd `na ddarllenydd ochr arall i’r wlad.

Ond odd bob dim yn iawn achos fo odd yn dreifio.

* * *

Yn droednoeth aethon ni’r diwrnod hwnnw. Law yn llaw. Nel ar ei thennyn a Jac yn syllu arni. Ei lygaid yn serennu. Fo ofynnodd i fynd am awyr iach, a duwcs ia, meddwn i. Do ni ddim am stiwio’n tŷ’n digaloni.

Hwn oedd fy nefoedd. O’r pentir hwn, gallwn weld fy myd yn ymestyn tua’r gororau.

Gloywai’r arfordir yn borffor berffaith gan hualau muriau’r llanw.

Tybiwn y gwyddwn holl gilfachau fy milltir sgwâr nes dod ar draws hysbysfwrdd werthai’r lle i ymwelwyr. Fe’m lloriwyd yn y fan gan ddisgrifiadau’r traethau: ‘Dwy draeth yn rhannu’r un môr, ond deimlan nhw fyth yr un dŵr.’

Oddi tanom, ymlwybrai teuluoedd a chyplau. Rhai’n golchi’u traed yn yr ewyn. Pob un yn sgleinio – yn rhincian yn arian yr heli.

Ond tu mewn roedd roedd pob cefnfor yn torri. `Falla mai fi oedd yn gor-feddwl. O ni `di dysgu rhif ffôn y gyrrwr tacsi lleol, `di agor cyfrif banc heb iddo fo wbod. A Mirain druan. Yn siop llnau dillad yn dre’. `Di cadw ambell flows a throwsus i mi. A make up palette. Jyst rhag ofn.

Ymserchodd Nel yn ei phêl drw’r p’nawn. Ninnau’n ei thaflyd. Hithau’n rhedeg ar ei ôl cyn ei gollwng yn ddel o’n blaenau. Gneud yr un peth rownd a rownd yn un rîl diddiwedd. Fel tasa `na ddim fory. Fel tasa `na neb fydda’n gallu roi stop ar hyn i gyd.

Doedd na’m fory. Ddim i Nel beth bynnag.

* * *

Fi ath i’w chladdu hi. Palu’r ddaear a gneud un twll cysáct.

Doedd hyn ddim yn yr amoda’.

Wedi ei gosod i lawr, dwi’n cofio llenwi’r bedd efo’i theganna’ hi i gyd. Ei gweld yn anwesu’i phêl dan ei blanced. Cyn llenwi’r twll â’m dagrau, sgwennish i bennill iddi a’i gosod rhwng twll y bwlat a’i choler:

Lle mae o? Weli di o?

Y bêl yn gorwedd yn y gwellt?

Ei wyrddi’n gre’, yn grin yn y gro –

‘Yr hwn y bu Nel yn ei anwylo’?

* * *

Ddaeth y lleuad ddim allan y noson honno, ond gwyddwn yn union lle roedd hi wrth iddi sgrechian drwy amlinelliad hen gwmwl mawr styfnig.

Yn y gwter islaw, llifai’r dŵr yn gyson ei rhythm i’r gwter fel petai cyfeiriad y diferion eisoes wedi’u pennu. Fel petaent yn aros eu tro – yn disgwyl eu tynged anochel. Drip-drip.

Chafodd Jac ddim cyfle i ddeud dim wrth iddo gael ei hebrwng gerfydd ei wâr o’r tŷ gan y dynion didrugaredd. Bu’r dynion yma o’r blaen. Nid yn y tŷ hwn efallai – ond mewn tai ledled y wlad. Gwelwn yn eu hosgo nad oedd modd caledu at y fath ffieidd-dra.

Daeth rhai allan, yn gydymdeimlad i gyd, i syllu ar y sioe welsant o’u blaenau – yn cogio iddynt fod yno’n gefn o’r cychwyn. Chwiliodd Jac o un i un am lygedyn o dosturi. Chafodd o `r’un.

Dilynais innau o bell er mwyn ei weld yn diflannu i gyrion fy myd. Daeth gwên o gryfder im sadio wrth i sŵn byddarol refio’r car ddychwelyd i lewni `mhen.

Nid carchar oedd o’i flaen, ond croesffordd. Un arwydd yn cynnig dwy lôn. Heno am y tro cyntaf, nid `fo oedd yn dewis ei gyrchfan.

Seren syw, clyw di’r claf.

 

Sioned Medi Howells yw Prif Lenor Eisteddfod T eleni

“Mae’r ysgrifennu yn llifo fel bod yr awdur yn diflannu a’r darllenydd yn cael ei gyrchu’n syth at galon y stori,” meddai’r beirnaid, Caryl Lewis