Mae Prif Weinidog Cymru, Mark Drakeford, wedi dweud y gallai Boris Johnson achosi i’r Deyrnas Unedig chwalu os yw’n penderfynu “dwyn pwerau a dwyn arian” gan Lywodraeth Cymru.
Wrth siarad ar ôl yr uwchgynhadledd rhwng arweinwyr y pedair gwlad ar adfer o’r coronafeirws heddiw (dydd Iau 3 Mehefin), dywedodd Mr Drakeford: “Roedd yn rhaid i mi fod mor glir ag y gallwn gyda’r Prif Weinidog, os yw Llywodraeth y DU yn credu mai’r ffordd orau o uno’r Deyrnas Unedig ynghyd yw dwyn pwerau a dwyn arian oddi wrth Lywodraeth Cymru, yna mae hynny’n wrthgynhyrchiol iawn, iawn ac yn cael yr effaith gwbl groes pan fydd yn rhaid i ni wneud pethau’n wahanol o hyn ymlaen.”
Pan ofynnwyd iddo a oedd ei fuddugoliaeth etholiadol ddiweddar, a buddugoliaeth Nicola Sturgeon yn yr Alban, wedi eu cryfhau nhw i fynnu agenda lawnach ar gyfer yr uwchgynhadledd, dywedodd Mr Drakeford: “Rydym wedi adnewyddu ein mandadau, mae hynny’n sicr.
“A dyna ran o’r rheswm y cynhaliwyd y cyfarfod pan gafodd ei gynnal, yn sgil yr etholiadau hynny.”
Cyfarfodydd rheolaidd ac “agenda briodol”
Dywedodd Mr Drakeford fod gan yr uwchgynhadledd “agenda briodol” o’i gymharu â’r cyfarfod a ohiriwyd o’r wythnos diwethaf, bod y Canghellor Rishi Sunak yn bresennol, a bod pynciau megis effaith economaidd coronafeirws ac adferiad economi’r DU wedi cael eu trafod.
“Fe sonion ni am sut y gallwn rannu ein profiadau’n well, y gwasanaeth iechyd sy’n delio ag oedi o ran triniaethau.. ac ysgolion – sut y gallwn helpu ein plant i wneud iawn am yr amser y maent wedi’i golli,” meddai Mr Drakeford.
“Yn yr ystyr hwnnw roedd gan y cyfarfod strwythur priodol a chyfle i’r holl gyfranogwyr wneud cyfraniad priodol.”
Dywedodd Mr Drakeford bod Boris Johnson bellach wedi ymrwymo i gyfarfod rheolaidd rhwng y pedair gwlad i drafod materion fel adferiad pandemig y wlad a dyfodol y Deyrnas Unedig.
“Clywais y Prif Weinidog yn ymrwymo i sicrhau bod fforwm mwy rheolaidd lle gellir trafod y pethau hyn,” meddai.
“Clywais ymrwymiad gan bob rhan o’r Deyrnas Unedig i rannu gwybodaeth am sut y gallwn ddysgu oddi wrth ein gilydd, a chael cyfres ehangach o gamau ymarferol y gallwn eu cymryd a fydd yn gwneud gwahaniaeth i bobl yng Nghymru.
“Pe bai’r ddau beth hynny’n digwydd, yna bydd y cyfarfod yn sicr wedi bod yn werth chweil.”
“Cydraddoldeb a pharch”
Ailadroddodd Mark Drakeford ei farn fod Cymru’n well ei byd y tu mewn i’r Deyrnas Unedig, ond y dylai ei dyfodol fod yn seiliedig ar “gydraddoldeb a pharch” rhwng y pedair gwlad.
“Yr hyn oedd heddiw oedd fi’n hyrwyddo’r achos o ran y ffordd i’r Deyrnas Unedig lwyddo – nid gydag un rhan ohoni’n tynnu pethau oddi wrth eraill ac yn dweud y bydd yn rheoli ac yn gwneud penderfyniadau.
“Rwyf am gael Teyrnas Unedig lle mae pob un o’r pedair gwlad, ar sail parch a chydraddoldeb, yn dod o amgylch y bwrdd hwnnw i rannu syniadau a gwneud penderfyniadau lle mae gennym fuddiannau cyffredin.
“Rwy’n credu bod hynny’n rysáit lwyddiannus. Gwneud y Deyrnas Unedig yn rhywle y mae pobl eisiau bod yn rhan ohoni yn y dyfodol, yn hytrach na theimlo bod un rhan o’r Deyrnas Unedig rywsut yn meddwl bod ganddo rym dros bawb arall.”
“Mae angen i Lywodraeth y Deyrnas Unedig wrando” – Sturgeon
Ar ôl yr uwchgynhadledd, dywedodd Prif Weinidog yr Alban, Nicola Sturgeon: “Rydym wrth gwrs yn barod i gydweithio ar adfer o’r pandemig, ond mae angen i Lywodraeth y Deyrnas Unedig wrando a gweithredu ar bryderon allweddol Llywodraeth yr Alban.
“Oherwydd y pwerau sy’n parhau yn San Steffan, mae’r penderfyniadau mae Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn eu cymryd yn cael effaith fawr ar y math o adferiad teg rydyn ni’n ceisio ei adeiladu yn yr Alban.
“Ceisiais sicrwydd na fyddem yn dychwelyd i galedi creulon a niweidiol y gorffennol ac y bydd ffyrlo a’r cynnydd o £20 mewn Credyd Cynhwysol yn cael eu hymestyn.
“Mae gwerth y cyfarfod hwn yn dibynnu ar p’un a yw Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn cymryd y materion hyn o ddifrif ac yn ymateb yn unol â hynny.
“Cafodd y cyfarfod hwn ei gynnal hefyd ar adeg pan fo Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn tanseilio datganoli drwy Ddeddf y Farchnad Fewnol ac yn dargyfeirio cyllid oddi wrth Senedd yr Alban.
“Mae’n rhaid i hyn ddod i ben ac, yn hytrach, mae angen i Lywodraeth y Deyrnas Unedig ddechrau trin Llywodraeth yr Alban a llywodraethau datganoledig eraill fel partneriaid cyfartal.”
“Ymgysylltu parhaus”
Yn dilyn yr uwchgynhadledd, dywedodd Boris Johnson ei fod am “ymgysylltu’n rheolaidd” â Chymru a’r Alban o hyn ymlaen.
Cyfaddefodd Prif Weinidog Prydain fod “safbwyntiau gwahanol” am ddyfodol cyfansoddiadol y Deyrnas Unedig ac na fydd y llywodraethau “bob amser yn cytuno” ond ei fod yn gobeithio y gallent gydweithio i sicrhau adferiad.
Pwysleisiodd y Prif Weinidog “bwysigrwydd sefydlu fforwm strwythuredig a rheolaidd ar gyfer ymgysylltu parhaus rhwng Llywodraeth y Deyrnas Unedig a’r gweinyddiaethau datganoledig”.