Mae wedi dod i’r amlwg bod ffigwr dadleuol wedi rhoddi £500,000 i’r Torïaid ddyddiau yn unig ar ôl cael ei urddo’n arglwydd.
Mae cofnodion y Comisiwn Etholiadol yn dangos bod yr Arglwydd Peter Cruddas wedi rhoddi’r hanner miliwn i’r Ceidwadwyr ar Chwefror 5 – dridiau ar ôl dod yn Arglwydd.
Roedd y Siambr Penodiadau wedi cynghori yn erbyn penodi’r gŵr hwnnw yn arglwydd, ond fe wnaeth Prif Weinidog y Deyrnas Unedig, Boris Johnson, fwrw ati ta beth a chaniatáu’r urddo.
Mae Peter Cruddas yn gyn-drysorydd y Ceidwadwyr, yn Brexit-frydig, ac yn gweithio ym maes cyllid yn ninas Llundain.
Ac roedd y Siambr Penodiadau yn pryderu am honiadau bod y gŵr wedi cynnig rhoddion i’r cyn-Brif Weinidog, David Cameron, er mwyn ennill dylanwad arno.
Beirniadaeth gan Lafur
Mae Angela Rayner, Dirprwy Arweinydd y Blaid Lafur, wedi ymateb yn chwyrn i’r newyddion diweddaraf yma.
“Beth wnaeth y Torïaid tros ddyn sydd wedi cael ei orfodi i ymddiswyddo dan gwmwl du ynghanol honiadau ei fod wedi cynnig arian er mwyn ennill ffafr gweinidogion y llywodraeth?” meddai.
“Wnaethon nhw ei roi yn Nhŷ’r Arglwyddi a wnaeth e’, trwy gyd-ddigwyddiad, rhoi hanner miliwn i’r Torïaid.”
Rhodd i Sinn Fein o Sir Benfro
Rhodd Peter Cruddas yw’r ail uchaf gan unigolyn yn ystod chwarter ariannol cyntaf 2021, yn ôl y Comisiwn Etholiadol.
Daeth y rhodd mwyaf rhwng Ionawr a Mawrth oddi wrth William E Hampton, mecanydd o Loegr. Aeth £800,000 o’i gyfrif yntau i Sinn Fein.
Bu farw Billy Hampton yn ei gartref yn Sir Benfro yn 82 oed yn 2018. Mae bellach wedi gadael bron i £3 miliwn i’r blaid maewn rhandaliadau.
Dyma’r rhodd fwyaf erioed i blaid wleidyddol yng Ngogledd Iwerddon.
Yn 2019, talodd llywydd Sinn Fein Mary-Lou McDonald deyrnged i Mr Hampton fel “rebel with a cause“.
Nid yw’n glir lle yn union oedd ei gartref yn Sir Benfro. Nid oedd ganddo wraig na phlant.