Mae’r Ysgrifennydd Cartref, Priti Patel, a’i hadran, wedi cael eu beirniadu dro ar ôl tro ynghylch y penderfyniad i ddefnyddio cyn-wersylloedd y fyddin fel llety i geiswyr lloches.

Penderfynodd y Swyddfa Gartref ddefnyddio Gwersyll Penalun yn Sir Benfro a Gwersyll Napier yng Nghaint fel llety i ffoaduriaid yn sgil prinder llety yn ystod y pandemig.

Heddiw (3 Mehefin), mae chwe dyn a fu’n byw yng Nghwersyll Napier wedi ennill her gyfreithiol yn erbyn y Swyddfa Gartref gyda’r barnwr yn cytuno fod yr amodau yno’n “anaddas”.

Cafodd pryderon eu codi gan arbenigwyr iechyd ac ymgyrchwyr ynghylch yr amodau ar y pryd, a dywedodd Comisiynydd yr Heddlu dros Ddyfed Powys wrth Golwg ychydig fisoedd yn ôl fod y safle ym Mhenalun “yn gwbl anaddas”.

Cafodd deisebau eu trefnu er mwyn cau’r safleoedd yn Sir Benfro, ac ym mis Mawrth fe wnaeth y ceiswyr lloches olaf adael y gwersyll.

Ar y pryd, dywedodd un ffoadur mai byw ym Mhenalun oedd “profiad gwaethaf ei fywyd”, ac fe wnaeth Iechyd Cyhoeddus Cymru ac Iechyd Cyhoeddus Lloegr fynegi pryder am ddiogelwch y llety yn Sir Benfro ac yng Nghaint yn sgil Covid-19.

Her gyfreithiol Napier

Cafodd clwstwr o achosion o Covid-19 eu cadarnhau yn Napier, ond er gwaethaf hynny fe wnaeth Priti Patel a’r gweinidog mewnfudo, Chris Philp AS, barhau i amddiffyn eu penderfyniad.

Heddiw, mae chwe dyn a fu’n byw yng ngwersyll Napier rhwng Medi 2020 a Chwefror 2021 ennill her gyfreithiol yn erbyn y Swyddfa Gartref.

Pan oedd pethau ar eu gwaethaf, dywedodd y Barnwr Linden fod 414 o bobol yn byw yng ngwersyll Napier, gyda phreswylwyr yn cysgu ar y llawr a tua 13 o bobol yn rhannu ystafelloedd.

Dywedodd y barnwr Linden yn ystod yr achos llys fod iechyd meddwl y chwe dyn wedi dirywio yn sgil eu hamser yn Napier, ac nad oedd y gwersyll yn addas.

Daeth y barnwr hefyd i’r casgliad fod y Swyddfa Gartref wedi gosod pobol “fregus” a ddylai fod wedi’u lletya yn rhywle arall, yn ôl eu canllawiau eu hunain, yn Napier.

“Methiannau sylfaenol”

Ym mis Chwefror, fe wnaeth ymchwilwyr archwilio safle Napier a dangos fod yna “fethiannau sylfaenol” gan y Swyddfa Gartref, a arweiniodd at “ddiffygion peryglus yn natur y llety a phrofiadau gwael i breswylwyr”.

“Gan ystyried yr amodau cyfyng cymunedol a mintai anweithadwy yn Napier, unwaith yr oedd un person yn cael ei heintio roedd clwstwr mawr bron â bod yn anochel,” meddai adroddiad Prif Archwilydd Annibynnol y Ffiniau a Mewnfudo ac Archwilydd Brenhinol y Carchardai.

Cafodd “pryderon difrifol” eu codi hefyd ynghylch diogelwch tân, ychwanegodd yr adroddiad.

Daeth yr adroddiad i’r casgliad fod y llety yn Napier yn “anaddas” a “diffygiol”, a bod “pryderon difrifol am warchodaeth”.

Yn ogystal, rhoddwyd pobol a oedd yn debygol o hunan-niweidio mewn unedau “wedi mynd â’u pen iddynt” nad oedd yn “ffit i bobol fyw ynddyn nhw”.

Mae’n debyg fod saith o bobol wedi hunan-niwedio yno, a bod saith arall wedi bygwth lladd eu hunain. Bu rhaid i un person, a oedd yn cael ei ddisgrifio fel “hunanddinistriol”, orfod aros ar y safle am fwy na mis.

Daeth yr adroddiad i’r casgliad fod gohebiaeth y Swyddfa Gartref gyda cheiswyr lloches yn “wael”, a bod diffyg gwybodaeth swyddogol wedi arwain at “gamddealltwriaethau a honiadau, a gafodd effaith negyddol ar unigolion ac ar yr hwyliau torfol”.

Cafodd rhai ceiswyr lloches, plant o bosib, eu cadw yn y gwersyll am gyfnodau hir, cyn cael eu symud at wasanaethau cymdeithasol.

Yn ogystal, nid oedd y gweithwyr wedi’u paratoi ar gyfer ymdopi â’r problemau cymhleth oedd yn codi yn y gwersyll. Er eu bod nhw’n barchus a chlên gyda’r ceiswyr lloches, mae’n debyg, roedd y rhan fwyaf ohonyn nhw’n staff diogelwch mewn clybiau nos, siopau, a gwestai.

Gwersyll Penalun: ‘Rhaid dal y rheiny sy’n gyfrifol i gyfri’

Iolo Jones

“Mae unrhyw sefyllfa y byddan nhw’n cael eu rhoi ynddo – yn fy nhyb i – yn mynd i fod yn well na Phenalun!”