Buasai’n “wallgof” pe bai Llywodraeth Cymru yn dewis peidio llacio rheolau covid cenedlaethol oherwydd ei gofidion am amrywiolyn Delta yng Nghonwy.

Dyna farn Louise Gail Emery, Cynghorydd Ceidwadol ward Gogarth ar Gyngor Sir Conwy, ac Aelod Cabinet y sir honno tros Ddatblygiad Economaidd a Hamdden.

Ddoe (2 Mehefin), adroddwyd bod yna 35 achos o amrywiolyn Delta (amrywiolyn India gynt) yn ardal Llandudno, Cyffordd Llandudno a Bae Penrhyn.

Mae lle i gredu bod y straen yma o’r coronafeirws yn lledaenu’n gynt, a bellach mae pobol yr ardal yn cael eu cynghori i gael eu profi – boed yn symptomatig ai peidio.

“Pryderus iawn”

Yn siarad â’r BBC ddydd Mercher dywedodd Eluned Morgan, y Gweinidog Iechyd, ei bod yn “bryderus iawn” am y sefyllfa yn Llandudno, ac y gallai gael effaith ar lacio cyfyngiadau yng Nghymru.

Mae disgwyl cyhoeddiad am y mater gan y Llywodraeth yfory, ac mae’n bosib y bydd rhagor o ryddfreiniau yn dychwelyd ddydd Llun.

Yn ôl y cynghorydd o Landudno, byddai dryllio’r llacio ar sail yr hyn sy’n digwydd yn ei thref hithau yn benderfyniad annoeth.

“Buasai hynny’n wallgof – pe bai’r amgylchiadau mewn cornel bychan o Gymru yn cael effaith ar gyfyngiadau ledled Cymru,” meddai.

“Yn amlwg byddai’n well gennym beidio â chael naid yn yr achosion o’r amrywiolyn yma. Ac mi fyddwn yn gwneud ein gorau glas i’w rhwystro rhag lledu.

“Mater i Lywodraeth Cymru yw gwneud y penderfyniadau hynny. Ond os ydym am fyw gyda’r feirws yma rydym yn mynd i orfod delio â neidiadau penodol ar lefel fwy lleol.

“A ni ddylwn fod â pholisi cenedlaethol sy’n seiliedig ar neidiadau mewn llond llaw o lefydd. Ond, fel dw i’n dweud, nid mater i fi yw hynna. Dw i’n siŵr dawn nhw i’r penderfyniad iawn.”

“Pryder cymedrol” yn Llandudno

Bellach mae bwrdd iechyd Betsi Cadwaladr yn annog pobol nad oes ganddynt symptomau i fynnu prawf llif unffordd (lateral flow test) yn Ysgol Awel y Mynydd, Cyffordd Llandudno.

Ac mae’r bobol hynny sydd â symptomau yn cael eu hannog i fynd i Ganolfan Fusnes Conwy er mwyn mynnu prawf PCR (polymerase chain reaction) – prawf sy’n fwy effeithiol.

Tybed beth yw’r teimlad yn Llandudno ar hyn o bryd? A yw’r trigolion yn ofidus am y sefyllfa?

“Mae yna bryder cymedrol a phwyllog am yr amrywiolyn,” meddai Louise Gail Emery. “Mae angen bod yn realistig am y niferoedd – maen nhw weddol isel o hyd.

“Rydym yn gwneud popeth y gallwn i annog preswylwyr i fynd am brofion llif unffordd. Yn amlwg os oes ganddyn nhw unrhyw symptomau dylen nhw fynd am brofion PCR. Ond rydym yn bwyllog.

“Rydym yn teimlo bod y sustemau iawn ar waith er mwyn delio â’r naid yma mewn achosion.

“A chyn belled a bod pobol yn cadw at reolau pellhau cymdeithasol, hylendid, a golchi dwylo – mae’r rhain i gyd yn bwysig – mi allwn ddelio â hyn.”

“Mae’n mynd i fod yn iawn”

Yn y darn BBC sy’n amlinellu gofidion y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, dyfynnir Meddyg Teulu o Gonwy, Helen Alefounder.

Am ei bod yn hanner tymor mae hithau’n ofidus y bydd mwy o ymwelwyr yng ngogledd Cymru, ac y bydd yna fwy o gymdeithasu, ac y gall hyn achosi problemau wrth geisio rheoli’r amrywiolyn.

Dyw’r cynghorydd ddim yn rhannu’r pryderon yma.

“Mae’n rhaid i ni ddychwelyd at normalrwydd yndoes?” meddai.

“Rydym yn mynd i fod yn byw â’r feirws yma am flynyddoedd, mwy na thebyg. Felly dw i ddim yn mynd i feio hyn ar y twristiaid. Byddai hynny’n hollol annheg.

“Mae hyn i gyd ymhlith preswylwyr a’r gymuned.

“Ac mi fydd y gymuned yn camu i’r adwy – fel y maen nhw wastad yn ei wneud yn yr ardal yma – ac yn mynd am brofion, yn cadw at reolau hylendid, ac yn dal ati i bellhau yn gymdeithasol.

“Mae’n mynd i fod yn iawn.”

Ymateb Llywodraeth Cymru

Wrth ymateb, dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru wrth golwg360: “Byddwn yn parhau i ddilyn y cyngor gwyddonol wrth wneud penderfyniadau am lacio’r cyfyngiadau.

“Mae’n briodol ystyried y sefyllfa o ran iechyd y cyhoedd gan gynnwys ymddangosiad amrywiolion newydd.

“Mae achosion mewn sawl rhan o Gymru, gan gynnwys y clwstwr yn y Gogledd.”

Llun o'r adeilad dan awyr las

Annog pawb sy’n byw yn Llandudno, Cyffordd Llandudno a Bae Penrhyn i gael prawf Covid-19

Daw hyn wedi i 35 achos tybiedig o amrywiolyn Delta – a oedd yn cael ei adnabod fel amrywiolyn India – gael eu darganfod yn yr ardal dros y penwythnos