Mae cyn-gyfarwyddwr Castell Aberteifi wedi cael dedfryd o garchar wedi’i gohirio ar ôl cyfaddef y bu iddo ddwyn £40,000 oddi wrth yr elusen sy’n gyfrifol am y castell.

Cafodd Jac Davies, 34, ei labelu’n “unigolyn hollol anonest” am ddwyn miloedd o bunnoedd o gyfrifon Castell Aberteifi, gan gynnwys defnyddio cerdyn credyd y cwmni i wario ar siopa, apiau ar-lein, a gwesty moethus pum seren.

Enillodd Castell Aberteifi gystadleuaeth Great British Buildings Channel 4 yn 2017, ddwy flynedd ar ôl cael ei ailagor gan wirfoddolwyr Ymddiriedolaeth Cadwraeth Adeiladau Cadwgan.

Ond dechreuodd yr ymgyrch lwyddiannus i adfer safle’r castell i’w hen ogoniant gael ei thanseilio ychydig fisoedd ar ôl y sioe deledu pan ddechreuodd y rheolwr gweithrediadau busnes, Jac Davies, gamddefnyddio arian yr elusen.

Derbynneb ffug

Ddydd Iau, clywodd Llys y Goron Abertawe fod Davies wedi creu derbynneb ffug ar gyfer cwrs rheoli lletygarwch ar-lein nad oedd erioed wedi cofrestru ar ei gyfer, gan lwyddo i argyhoeddi’r elusen i’w “ad-dalu” £4,143 ym mis Rhagfyr 2017.

Rhwng mis Hydref 2018 a mis Mai 2019, fe wnaeth Davies ddwyn £1,098 o siop ar-lein y castell drwy sefydlu cyfrif PayPal yn ei enw ei hun yn hytrach na thrwy ddefnyddio cyfrif banc yr elusen.

Methodd Davies hefyd â dychwelyd £5,616 a dderbyniodd gan siop y castell rhwng Mai 2018 a Mai 2019 – awgrymodd i gydweithwyr fod yr arian hwn wedi cael ei ddwyn gan eraill pan osododd amlenni’n llawn arian parod ar sil ffenestr yn y swyddfa.

Dywedodd yr erlynydd Danielle Lodwig fod Davies wedyn wedi gwario £28,955 gan ddefnyddio cerdyn credyd y cwmni rhwng mis Chwefror a mis Tachwedd 2019, gan gynnwys yng Ngwesty’r Celtic Manor, ger Casnewydd.

Dywedodd: “Mae Davies wedi gwneud amryw o drafodion personol gan ddefnyddio’r cerdyn hwnnw gyda chwmnïau fel Next, Prime Video, iTunes, Tesco, a Gwesty’r Celtic Manor.

“Ni ddarparwyd unrhyw dystiolaeth ganddo i gefnogi bod y rhain yn daliadau am unrhyw beth i’w wneud â’r castell.”

Dywedodd Ms Lodwig mai £43,052 oedd y golled i’r elusen, gan gynnwys drwy bremiymau yswiriant uwch a gwaith i newid cloeon y castell gan nad oedd Davies wedi dychwelyd ei allwedd ar ôl i ymchwiliadau i’r anghysondebau ddechrau.

Gwadodd Davies unrhyw gamweddau mewn cyfweliadau heddlu i ddechrau, cyn cyfaddef yn ddiweddarach ei fod wedi “syrthio ar amseroedd caled” – mae bellach wedi cyflwyno tua £40,000 i’w gyfreithwyr yn barod i wneud ad-daliadau.

Mewn gwrandawiad cynharach plediodd yn euog i ddau gyfrif o dwyll drwy gynrychiolaeth ffug a dau gyfrif o ladrad.

Unigolyn hollol anonest

Dywedodd y Barnwr Paul Thomas wrth Davies: “Does dim disgrifiad arall ohonoch chi, mae gen i ofn, heblaw dweud eich bod chi’n unigolyn hollol anonest.”

Dywedodd fod Davies yn gwybod y byddai ei weithredoedd “yn rhoi sefyllfa ariannol yr elusen dan straen”, a dywedodd fod geirdaon cadarnhaol am ei gymeriad gan ei ffrindiau a’i gydweithwyr yn dangos ei fod wedi “llwyddo i’w twyllo”.

Dedfrydwyd Davies, o Ddol y Dintir, Aberteifi, i 21 mis yn y carchar, gan ohirio’r ddedfryd am ddwy flynedd, a gorchmynnwyd iddo ymgymryd â gweithgaredd adsefydlu 15 diwrnod a chyflawni 200 awr o waith di-dâl.

Bydd gwrandawiad ymhen pythefnos yn pennu’r ffigur terfynol y bydd angen i Davies ei ad-dalu.

Dywedodd Bwrdd Ymddiriedolaeth Cadwraeth Adeiladau Cadwgan mewn datganiad nad oedd “unrhyw fygythiad i hyfywedd yr elusen na’r castell” oherwydd yr arian coll, a bod ei ffocws “ar sicrhau blwyddyn lwyddiannus arall”.