Mae Cymdeithas yr Iaith wedi dweud eu bod nhw’n “edrych ymlaen yn fawr” at weld a thrafod manylion Deddf Addysg Gymraeg newydd Llywodraeth Cymru.
Wrth siarad gyda Newyddion S4C neithiwr dywedodd Gweinidog y Gymraeg ac Addysg, Jeremy Miles, eu bod nhw’n bwriadu cyflwyno Deddf Addysg Gymraeg yn ystod y tymor Seneddol hwn.
“Mae’n fwriad yn ein maniffesto ni fel Llafur Cymru i gyflwyno deddf addysg gyfrwng Cymraeg er mwyn sicrhau bod ganddon ni sail statudol addas er mwyn delifro ar yr amcan sy gyda ni” meddai’r gweinidog.
“O ran cynlluniau awdurdodau lleol, neu rôl y Coleg Cenedlaethol Cymraeg, mae na amryw bethau y gallwn ni eu gwneud i gryfhau’r sail statudol a dyna’r bwriad yn y ddeddf honno maes o law.”
Bydd Cymdeithas yr Iaith yn parhau i ymgyrchu i sicrhau fod cynnwys y Ddeddf yn cyflawni’r nod o sicrhau addysg Gymraeg i bawb, ac maen nhw’n dweud fod rhaid gweithredu ar fesurau nawr er mwyn cyrraedd miliwn o siaradwyr Cymraeg.
Mae ystadegau sawl Cyngor yng Nghymru yn dangos fod niferoedd y plant sy’n mynd i ysgolion Cymraeg wedi aros yn eithaf cyson dros y blynyddoedd diwethaf.
“Anghyfiawnder sylfaenol”
“Rydyn ni wedi bod yn ymgyrchu ers blynyddoedd dros Ddeddf Addysg Gymraeg newydd, felly rydyn ni’n falch iawn o weld yr ymrwymiad yna gan y Llywodraeth newydd o ran cyflwyno’r ddeddfwriaeth newydd,” meddai Mabli Siriol, Cadeirydd Cymdeithas yr Iaith.
“Mae’r twf mewn addysg Gymraeg wedi bod bron yn ddim byd ers blynyddoedd nawr, ac mae e ymhell o fod y lefel o dwf sydd ei angen ar gyfer cyrraedd y miliwn.
“Ac yn bwysicach, i wireddu hawl pob plentyn i’r Gymraeg.
“Mae’n fater o anghyfiawnder sylfaenol fod 80% o blant dal yn gadael yr ysgol ddim yn gallu siarad Cymraeg, felly dyna pan rydyn ni eisiau gweld y ddeddf yma.
“Rydyn ni’n edrych ymlaen yn fawr at weld a thrafod manylion y ddeddfwriaeth newydd gyda’r gweinidog.”
“Ddim yn gweithio”
“Dyw’r system sydd gennym ni ar hyn o bryd ddim yn gweithio. Mae’r ffigurau yn dweud popeth wrthym ni o ran y twf ar lefel awdurdodau lleol,” esbonia Mabli Siriol, gan gyfeirio at ystadegau sy’n dangos nad oes cynnydd parhaus yn niferoedd y plant sy’n derbyn addysg Gymraeg.
“Dyw e jyst ddim wedi digwydd fel sydd angen, felly be rydyn ni eisiau gweld yw deddf fydd yn gosod nod statudol yng nghyfraith gwlad i symud tuag at addysg cyfrwng Cymraeg cyflawn i bob plentyn yn debyg iawn i’r hyn sydd gan Gatalwnia yn y eu deddfwriaeth nhw.
“Fel rhan o’r ddeddf hynny wedyn, byddai gennych chi dargedau statudol ar lefel genedlaethol a lleol a fyddai’n cymryd lle cynlluniau strategol Cymraeg mewn addysg presennol – er mwyn normaleiddio ac ehangu addysg Gymraeg ar draws y wlad.
“Hefyd targedau statudol eraill o ran recriwtio a hyfforddi’r gweithlu sy’n gallu dysgu drwy gyfrwng y Gymraeg a chynyddu addysg Gymraeg dros amser mewn ysgolion cyfrwng Saesneg presennol,” ychwanega.
“Heb gymryd y mesurau hynny nawr, dydyn ni ddim yn mynd i gyrraedd y miliwn, dydyn ni ddim yn mynd i gael gwlad lle mae pob plentyn yn tyfu lan gyda’r Gymraeg.”