Mae dau ddyn wedi cael eu harestio ym Mharis ar amheuaeth o lofruddio Tomasz Waga.
Cafwyd hyd i’w gorff gan aelod o’r cyhoedd fore Iau, 28 Ionawr, mewn eiddo yn ardal Penylan yng Nghaerdydd.
Fe ddaeth i’r amlwg ei fod e wedi dioddef ymosodiad, ac mae pedwar dyn arall eisoes wedi’u cyhuddo ac yn cael eu cadw yn y ddalfa.
Mae teulu Tomasz Waga wedi cael gwybod am y datblygiad diweddaraf, ac mae’r heddlu’n parhau i gynnig cefnogaeth iddyn nhw.
Dywedodd y DCI Mark O’Shea: “Gallwn gadarnhau bod dau unigolyn 26 a 27 oed wedi cael eu harestio ym Mharis yn dilyn ymgyrch dan arweiniad Swyddogion Troseddau Difrifol Heddlu De Cymru, cydweithwyr o’r Ganolfan Cydgysylltu Troseddau Rhyngwladol a’r Asiantaeth Troseddu Genedlaethol.
“Rydym bellach yn gweithio gyda Gwasanaeth Erlyn y Goron i sicrhau estraddodiad y ddau ddyn o Ffrainc yn ôl i’r Deyrnas Unedig.”
Mae pedwar dyn arall yn dal i fod dan amheuaeth o lofruddio Tomasz Waga. Y rhain yw:
- Gledis Mehalla, 19, cyfeiriad hysbys diwethaf Cathays, Caerdydd
- Elidon Elezi, 22, cyfeiriad hysbys diwethaf East Finchley, Llundain.
- Artan Pelluci, 29, cyfeiriad hysbys diwethaf Cathays, Caerdydd
- Ledjan Qevani, 33, cyfeiriad hysbys diwethaf Tottenham, Llundain.
Mae gan y pedwar dyn gysylltiadau â Lushnje yn Albania, Swydd Efrog, gogledd orllewin Llundain a Bryste.
Mae nifer o gerbydau wedi’u hatafaelu fel rhan o’r ymchwiliad ond mae’r heddlu yn dal i chwilio am Mercedes C200 Sport arian/llwyd, rhif cerbyd BK09 RBX.
Gwelwyd y Mercedes yng Nghaerdydd ar ddiwrnod y llofruddiaeth ond nid yw wedi’i weld ers hynny.
Gallai gynnwys tystiolaeth hanfodol a helpu swyddogion arweiniol i’r rhai a ddrwgdybir sy’n weddill.
Mae gwobr o £5,000 ar gael o hyd gan Crimestoppers am wybodaeth am leoliad Gledis Mehalla a’r Mercedes.
“Byddai’n well i chi ildio’n wirfoddol”
Apeliodd DCI Mark O’Shea arnynt i ildio eu hunain i’r heddlu.
“Byddwn yn ddi-baid yn ein hymgyrch i ddod o hyd i chi ac rydym yn eich annog i wneud y peth iawn ac ildio eich hunain,” meddai.
“Rwy’n dweud wrth y pedwar o bobol sy’n weddill ei bod er eich budd chi i ddod ymlaen yn wirfoddol a dweud wrthym beth ddigwyddodd ar y noson honno ym mis Ionawr.
“Nid yw ffiniau rhyngwladol yn rhwystr i ni wrth fynd ar drywydd pobol yr ydym yn amau eu bod wedi llofruddio yn y Deyrnas Unedig, mae gennym gysylltiadau rhagorol â chydweithwyr cyfraith ledled Ewrop, gan gynnwys Albania.
“Byddai’n well i chi ildio’n wirfoddol a byddwch yn cael eich trin yn deg yn unol â chyfreithiau’r Deyrnas Unedig.”