Mae’r heddlu sy’n ymchwilio i farwolaeth Tomasz Waga ar Ionawr 28 wedi arestio dau ddyn ar amheuaeth o lofruddio.

Mae dyn 24 oed o Lundain a dyn 41 oed o Gaerdydd yn cael eu holi yn y ddalfa.

Mae tri dyn arall eisoes wedi’u cyhuddo mewn perthynas â’i farwolaeth ac maen nhw wedi’u cadw yn y ddalfa.

Mae’r heddlu’n dal i chwilio am Josif Nushi, 26 oed, Mihal Dhana, 27 oed, a Gledis Mehalla, 19 oed ac maen nhw’n awyddus i gael mwy o wybodaeth am gar Mercedes C200 Sport, rhif BK09 RBX, a gafodd ei weld yng Nghaerdydd ar y diwrnod y cafodd Tomasz Waga ei lofruddio.

Mae gwobr o £5,000 ar gael am wybodaeth, ac mae lle i gredu bod ganddyn nhw gysylltiadau ag Albania, Bradford a Huddersfield yn Swydd Efrog, gogled-orllewin Llundain a Bryste.

Mae lle i gredu eu bod nhw wedi gadael Caerdydd ar Ionawr 29.

Dylai unrhyw un â gwybodaeth gysylltu â’r heddlu ar 101.