Met Caerdydd 5-1 Aberystwyth

Roedd Met Caerdydd ar dân wrth roi cweir i Aberystwyth ar Gampws Cyncoed nos Wener, yn ennill o bum gôl i un.

Ers i mi wneud hwyl ar ben eu record sgorio ddifrifol ychydig wythnosau yn ôl, mae’r Myfyrwyr wedi sgorio deunaw gôl mewn chwe gêm, croeso bois! Yn wir, mae hynny’r un faint o goliau ag a gawsant yn eu tair gêm ar hugain gyntaf!

Eliot lot o goliau

Mae Eliot Evans wedi bod yn ffynhonnell ddibynadwy o goliau i’r Met dros y tymhorau diwethaf ac mae adfywiad diweddar ei dîm o flaen gôl wedi cyd-fynd â rhediad personol da ganddo. Ef a rwydodd y gyntaf yn erbyn Aber, ei bumed mewn pum gêm.

Dyblodd Oli Hulbert y fantais cyn yr egwyl cyn i Emlyn Lewis roi’r gêm o afael yr ymwelwyr yn gynnar yn yr ail gyfnod.

Rhwydodd Hulbert ei ail o’r noson a phedwaredd ei dîm wyth munud o’r diwedd cyn i Matthew Jones dynnu un yn ôl i Aber.

Y tîm cartref a gafodd y gair olaf serch hynny gyda Liam Warman yn cwblhau’r sgorio yn y munud olaf.

Mae’r canlyniad yn codi Met dros Aberystwyth, i’r nawfed safle yn y tabl.

 

*

 

Derwyddon Cefn 0-7 Y Drenewydd

Rhoddodd y Drenewydd grasfa go iawn i’r Derwyddon Cefn ar y Graig nos Wener. Mae’r Robiniaid gam yn nes at orffen yn y seithfed safle holl bwysig ar ôl taro saith heibio’r Derwyddon!

Gwledd o goliau

Y peth rhyfeddaf am y wledd hon o goliau oedd na ddechreuodd hi tan bum munud cyn yr egwyl. Dim ond gôl i ddim a oedd hi wrth droi diolch i Nick Rushton.

Aeth yr ymwelwyr â’r gêm o afael y tîm wedi hynny gyda dwy gôl gan Alex Fletcher yn gynnar yn yr ail gyfnod.

Hatric chwarter awr

Cyflymu a wnaeth y sgorio wedi hynny gyda James Davies yn rhwydo hatric chwarter awr yn erbyn amddiffyn anobeithiol ei gyn glwb.

Cyfrannodd Aaron Simpson gôl i’w rwyd ei hun at y gweir ac mae Cefn bellach wedi ildio 81 o goliau’r tymor hwn, ar gyfartaledd o 2.8 pob gêm.

Mae’r Drenewydd bellach chwe phwynt yn glir yn y seithfed safle ar ôl ennill chwech allan o saith ers y toriad. Mae Cefn ar y llaw arall wedi colli’r chwech diwethaf, ar waelod y tabl a bellach yn sicr o orffen yn y safle hwnnw.

 

*

 

Caernarfon 2-2 Penybont

Tynhaodd Penybont eu gafael ar y pedwerydd safle gyda gêm gyfartal, ddwy gôl yr un, yn erbyn Caernarfon ar yr Oval ddydd Sadwrn.

Gôl yr un a oedd hi ar hanner amser yn dilyn goliau Jacob Bickerstaff i Gaernarfon a Kane Owne i Benybont.

Roedd yr ymwelwyr yn meddwl eu bod wedi ei hennill hi gyda gôl Lewis Harling ugain munud o’r diwedd cyn i Sion Bradley achub pwynt i’r Cofis yn y munud olaf.

‘Pencampwyr y de’

Mae’r canlynaid yn rhoi chwe phwynt o fantais i Benybont dros y Barri am y pedwerydd safle a theitl ‘pencampwyr y de’. Chweched a fydd Caernarfon, a chanolbwyntio ar y gemau ail gyfle a fyddan nhw bellach.

 

*

 

Y Barri 1-4 Y Bala

Diogelodd y Bala’r trydydd safle gyda buddugoliaeth gyfforddus yn erbyn y Barri ar Barc Jenner ddydd Sadwrn.

Sgoriodd Chris Venables ei ddau ganfed gôl yn yr Uwch Gynghrair wrth i’w dîm ennill o bedair gôl i un.

Cyfnewidiodd y ddau dîm ddwy gôl gyflym wedi deg munud o chwarae, Antony Kay yn rhoi’r ymwelwyr ar y blaen cyn i Nat Jarvis daro nôl i’r tîm cartref.

Clwb 200

Llwyfan Venables a oedd hi wedi hynny. Rhoddodd ei dîm ar y blaen ddeuddeg munud cyn yr egwyl ar ôl manteisio ar gamgymeriad Lee Idzi yn y gôl.

Ychwanegodd Venables ei ail ef a thrydedd ei dîm o ongl dynn wedi hynny cyn cylchu Idzi i gwblhau’i hatric yn yr eiliadau olaf.

Mae’r canlyniad yn cadarnhau mai’r Bala sydd yn gorffen y drydydd ac yn cipio’r safle Ewropeaidd awtomatig olaf.

 

*

 

Y Fflint 2-0 Hwlffordd

Mae tymor Hwlffordd yn mynd o ddrwg i waeth wedi i hyd yn oed y Fflint ei curo ar Gae’r Castell ddydd Sadwrn.

Josh Amis  ac Alex Jones  a gafodd y goliau wrth i’r tîm o’r gogledd ddwyrain roi taith hir yn ôl i dde Sir benfro i’r adar Gleision.

Mae Hwlffordd bellach heb ennill mewn pump ond yn aros yn wythfed. Unfed ar ddeg y;w fflint er gwaethaf y tri phwynt.

 

*

 

Cei Connah 0-0 Y Seintiau Newydd

Di sgôr a oedd hi yn y gêm fawr rhwng Cei Connah a’r Seintiau Newydd ar frig y tabl nos Sadwrn, canlyniad sydd yn siwtio’r Nomadiaid yn fwy na’r Seintiau gyda dim ond tair gêm yn weddill.

Ni wnaeth safon y gêm gyfiawnder â’i mawredd mewn gwirionedd wrth i’r Seintiau addasu eu dull o chwarae ni osgoi cael cweir fel yr wythnos diwethaf.

Prin iawn a oedd y cyfleoedd clir o flaen gôl a cherdyn coch hwyr Danny Redmond am ddau gerdyn melyn a oedd y prif destun trafod.

Derbyniodd y chwaraewr canol cae ddau gerdyn melyn yn yr amser a ganiateir am anafiadau ar ddiwedd y gêm ac roedd yr ail, yn enwedig, yn benderfyniad gwarthus gan y dyfarnwr.

Mae’r canlyniad yn rhoi Cei Connah ddau bwynt yn glir o’r Seintiau gyda dwy gêm yn weddill ac mae’r teitl bellach yn nwylo’r Nomadiaid, gyda gemau yn erbyn y Barri, Caernarfon a Phenybont ar ôl.

 

 

Gwilym Dwyfor