Bydd y tywydd yn oer a rhewllyd heno – gyda rhybudd melyn am wyntoedd cryfion a glaw trwm ddydd Llun, Gŵyl y Banc.

Fe fydd hi mor oer fel bod asiantaeth Traffig Gogledd a Chanolbarth Cymru wedi rhybuddio y bydd eu “graeanwyr allan ar draws rhanau o’r rhwydwaith heno.”

Mae’r Swyddfa Dywydd wedi cyhoeddi rhybudd tywydd melyn am wynt ar draws arfordir Cymru ddydd Llun a dydd Mawrth, gyda’r gwyntoedd cryfion yn debyg o greu trafferthion i bobl gyda theithio.

Gallai’r gwyntoedd cryfion o hyd at 50mya hefyd greu difrod i adeiladau.

Dywedodd meteorolegydd y Swyddfa Dywydd Craig Snell y bydd dydd yfory (dydd Sul) yn parhau i fod yn oer am yr adeg o’r flwyddyn, gyda heulwen a chawodydd gwasgaredig.

Dywedodd y bydd y tymheredd tua 13C i 14C yn y de dros y penwythnos, islaw’r tymheredd arferol ar gyfer yr adeg hon o’r flwyddyn o agosach at 16C.

Bydd dydd Llun yn gweld llawer mwy o law – hyd at 40-50mm – yn ogystal â gwyntoedd cryfion.