Mae dyn o Ynys Môn wedi cael ei arestio ar amheuaeth o droseddau terfysgaeth.

Roedd o yn un o tri dyn, menyw a bachgen yn eu harddegau gafodd eu harestio y bore yma. (Sadwrn)

Arestiodd swyddogion o Blismona Gwrthderfysgaeth Gogledd Ddwyrain Lloegr ddyn 29 oed, dyn 30 oed a menyw 28 oed yn Keighley, Gorllewin Swydd Efrog, fore Sadwrn ar amheuaeth o fod yn rhan o’r gwaith o gomisiynu, paratoi neu gychwyn gweithredoedd terfysgaeth o dan Adran 41 o Ddeddf Terfysgaeth 2000.

Cafodd dyn 28 oed ei arestio ar Ynys Môn, a chafodd bachgen 16 oed ei arestio yn Swindon, Wiltshire ar amheuaeth o’r un drosedd.

‘Pryderon’

Mae’r pump wedi cael eu cludo i orsaf heddlu yng Ngorllewin Swydd Efrog i’w holi, meddai Plismona Gwrthderfysgaeth Gogledd Ddwyrain Lloegr.

Mae nifer o dai ac eiddo’n cael eu chwilio ar hyn o bryd mewn cysylltiad â’r arestiadau sy’n rhan o ymchwiliad parhaus i derfysgaeth adain dde.

Ychwanegodd y datganiad: “Rydym yn cydnabod y gall fod gan bobl leol bryderon o ganlyniad i’r gweithgaredd hwn.

“Hoffem eu sicrhau bod yr arestiadau hyn yn cael eu cynllunio ymlaen llaw a’u harwain gan ddeallusrwydd ac ni chredir bod unrhyw risg uniongyrchol i’r gymuned leol.

“Rydym yn ddiolchgar am ddealltwriaeth, amynedd a chefnogaeth trigolion lleol tra bod yr ymchwiliadau hyn yn parhau.”