Mae’r gwaith ffilmio wedi dechrau yng Ngwynedd ar y drydedd gyfres o Craith, gall golwg360 ddatgelu.
Mae criw wedi bod wrthi yn ffilmio mewn lleoliadau trawiadol ar hyd a lled y sir ar gyfer y gyfres boblogaidd fydd hefyd yn cael ei darlledu yn Saesneg dan yr enw Hidden.
Cwmni Severn Screen sydd wrthi ac mae nhw wedi eu ymgartrefu dros dro ym maes parcio Gwesty’r Celt, Caernarfon.
Mae gan y criw nifer o faniau mawr gwyn yno fel trelars i’r artistiaid, faniau paratoi bwyd i’r cast a thoiledau.
Wrth drafod y ddrama dywyll, llawn dirgelwch dywedodd y cynhyrchydd, Hannah Thomas: “Mae’n braf cael y criw nôl gyda’i gilydd i saethu’r drydedd gyfres o Craith ac mae atgyfodi cymeriadau DCI Cadi John (Sian Reese-Williams) a DS Owen Vaughan (Sion Alun Davies) yn broses hynod o gyffrous.
“Heb ddatgelu gormod, bydd Cadi a Vaughan yn datrys achos arall o lofruddiaeth wedi i gorff gael ei ddarganfod mewn amgylchiadau amheus, ac wrth gwrs byddwn yn dod i ddeall mwy am eu bywydau tu allan i’r gwaith.
‘Dawnus’
“Bydd sawl wyneb cyfarwydd yn ymuno â’r cast am y tro cyntaf, gan gynnwys Gwen Elis, Rhian Blythe a Sion Ifan.
“Yn ogystal, bydd enwau gymharol newydd fel Justin Melluish. Mae Justin yn actor dawnus sydd wedi magu profiad yn perfformio gyda’r cwmni theatr gynhwysol, Hijinx.”
Bydd y gyfres yn cael ei ffilmio ochr yn ochr yn y Gymraeg a’r Saesneg gan ddarlledu ar BBC Wales fel Hidden.
Dywedodd Comisiynydd drama S4C, Gwenllian Gravelle: “Trwy lwyddiant y ddwy gyfres gyntaf, mae’r gwylwyr yn gyfarwydd â fformat gafaelgar Craith erbyn hyn.
“Ac yn y stori ysgytwol ddiweddaraf, byddwn yn cadw’n dryw i’r drefn o ofyn ‘pam’ yn hytrach na ‘phwy’ sydd wedi cyflawni’r drosedd.
“Unwaith eto, bydd popeth yn digwydd yn yr ardaloedd cyfagos i gartref Cadi a bydd tirwedd drawiadol yn ganolog i’r plot.
‘Syfrdanol’
“Mae’r lleoliadau syfrdanol yn cyfrannu at allu’r ddrama i afael ynddoch chi a gwneud i chi deimlo eich bod yng nghanol y cyfan.”
Gall gwylwyr edrych ymlaen at weld y gyfres newydd, a’r olaf, o Craith ar S4C yn yr Hydref.
Mae Craith yn dangos Ynys Castell, sydd mewn gwirionedd yn gartref gwyliau ar ei ynys bach ei hun oddiar Ynys Môn, sef lleoliad cartref ty Cadi.
Nid oes modd cyrraedd yr ynys am tua pedair awr bob dydd oherwydd y llanw.
Mae’r cyfresi blaenorol wedi ffilmio ym Mlaenau Ffestiniog, Cwm Prysor, Trawsfynydd a Rhyd-Ddu.