Mae India yn gwegian oherwydd marwolaethau yn sgil Covid-19.

Heddiw torrodd India record fyd-eang ddyddiol arall gyda 401,993 o achosion newydd, gan fynd â nifer y cleifion i ragor na 19.1 miliwn

Ac mae tân mewn ward ysbyty Covid-19 yng ngorllewin y wlad wedi lladd 18 o gleifion, wrth i wlad fynd i’r afael â’r achosion gwaethaf.

Cafodd 31 o bobl eu hachub o’r tân yn nhalaith Gujarat ac mae eu cyflwr yn sefydlog meddai’r heddlu.

Tan gyfrif

Llwyddwyd i ddiffodd y tân o fewn awr.

Bu farw 3,523 o bobl eraill yn ystod y 24 awr ddiwethaf, gan godi’r marwolaethau cyffredinol i 211,853, yn ôl y weinyddiaeth iechyd.

Cred arbenigwyr fod y ddau ffigwr yn dangyfrif.

Mae’r India nawr wedi penderfynu ymestyn eu cynllun brechu i bawb dros 18 oed.

Gwahardd

Yn y cyfamser, mae Llywodraeth Awstralia yn bygwth gwahardd ei dinasyddion rhag dychwelyd i’r wlad o India.

Gallai unrhyw un sy’n ceisio torri’r rheol newydd wynebu cyfnod o bum mlynedd yn y carchar a dirwyon.

Ond mae un meddyg yn Awstralia wedi cyhuddo’r Llywodraeth yno o adael ei dinasyddion i farw yn yr India os nad oes ffordd iddyn nhw ddychwelyd.

Mae’r sefyllfa yn India yn arw iawn gyda miloedd o bobol wedi bod yn marw ar y strydoedd oherwydd prindrer safleoedd amlosgi.

Mae sawl talaith wedi dweud nad oes ganddyn nhw ddigon o bigiadau.

Hyd yma, 10% o’r boblogaeth sydd wedi cael eu pigiadau.