Mae’r heddlu yn hela fandaliaid lifiodd nyth gweilch ger Llyn Brenig, rhwng siroedd Conwy a Dinbych.

Dywedodd llefarydd fod y fandaliaid wedi defnyddio llif gadwyn i lifio drwy’r platfform oedd yn dal y nyth sy’n gartref i’r adar.

Mae’r adar yn cael eu gwarchod gan ddeddf gwlad.

Roedd un o’r gweilch newydd ddodwy ei ŵy cyntaf y noson gynt.

Fe wnaeth Prosiect Gweilch Brenig alw’r digwyddiad fel “fandaliaeth arswydus” ar eu cyfrif Facebook.

‘Trist’

Mae swyddogion o Dîm Troseddau Cefn Gwlad Heddlu’r Gogledd wedi bod yn yr ardal y bore yma yn chwilio am gliwiau i ganfod y drwgweithredwyr ac mae ymchwiliad ar y gweill.

“Mae’n drist gennym adrodd fod rhywun wedi mynd ati yn fwriadol neithiwr i dynnu lawr platfform nythu’r gweilch,” meddai trydar gan yr heddlu.

 

Mae Prosiect Gweilch y Brenig yn bartneriaeth gyda Dŵr Cymru ac Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru.

Dywedodd yr Ymddiriedolaeth: “Neithiwr am 21:42 fe wnaeth rhywun gymryd llif gadwyn i’r nyth, a’i dymchwel.”

Mae’r safle nythu yn Brenig yn gartref i ddwy fenyw ac un gwryw.