Bydd swyddogion yr heddlu yn cynnal patroliau o ardaloedd i atal rêfs anghyfreithlon gael eu cynnal.

Dywedodd Heddlu Dyfed Powys eu bod eisiau cymorth y cyhoedd i’w helpu i rwystro’r rêfs yma rhag cael eu cynnal yn y lle cyntaf.

Bydd swyddogion yn mynd o gwmpas rhai ardaloedd dros y penwythnos “sy’n gallu bod yn safleoedd deniadol i rêfs”, meddai’r llu.

Ers blynyddoedd, mae trefnwyr rêfs anghyfreithlon wedi bod yn eu trefnu mewn ardaloedd yng Nghymru lle mae nhw yn ystyried yn anghysbell.

Teithio

Mae nifer wedi cael eu cynnal yng nghymoedd y De gan gynnwys Banwen, Castell Nedd a Brechfa, Dyfed a hefyd yng Nghoedwig Clocaenog ger Rhuthun ac ar draethau ar benrhyn Llŷn gan adael tunnelli o sbwriel ar eu holau ac anharddu ardaloedd gwledig yn aml.

Mae’r trefniadau yn aml yn cael eu gwneud drwy ddefnyddio’r cyfryngau cymdeithasol gyda phobl ifanc yn cael eu denu i deithio o bob rhan o Ynysoedd Prydain.

Fodd bynnag, oherwydd y pandemig a’r ofnau y gall digwyddiadau o’r fath ledaenu Covid-19, mae’r heddlu wedi gorfod eu rhwystro rhag cael eu cynnal.

Mae trefnwyr wedi cael dirwyon llym am gynnal digwyddiadau o’r fath ac mae mynychwyr hefyd yn wynebu cosbau llym.

‘Flamenco’

Mae Heddlu Dyfed Powys wedi rhoi enw i’r ymgyrch atal rêfs, sef Flamenco.

Dyma’r canllawiau i bobl adnabod yr arwyddion, medd y llu:

  • Nifer anghyffredin o gerbydau, yn enwedig faniau gwersylla, faniau neu dryciau yn yr ardal.
  • Tresmaswyr anghyfreithlon a fydd efallai’n rhagchwilio safleoedd cyn unrhyw rêf.
  • Unigolion sy’n cysylltu â thirfeddianwyr neu’n ymholi ynghylch tir.
  • Os ydych yn amau bod rhywun sy’n eich holi ynghylch llogi tir yn dweud celwydd am bwy ydyw, cysylltwch â’r heddlu yn syth.
  • Mae rhwydweithiau cymdeithasol yn ei gwneud hi’n naws i drefnwyr ledaenu’r gair – gall nifer y bobl dyfu’n sylweddol yn gyflym, a lleoliadau newid.