Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn annog pobol sy’n byw yn Llandudno, Cyffordd Llandudno a Bae Penrhyn i gael prawf Covid-19 cyn gynted â phosib, hyd yn oed os nad oes ganddyn nhw symptomau.
Daw hyn wedi i 35 achos, neu achosion tybiedig, o amrywiolyn Delta – a oedd yn cael ei adnabod fel amrywiolyn India – gael eu darganfod yn yr ardal dros y penwythnos.
Ar y cyd â Chyngor Bwrdeistref Sirol Conwy a Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr, maen nhw’n annog pobol yn yr ardal i gadw llygad ar unrhyw symptomau Covid-19 hefyd.
Mae profion llif unffordd ar gael i’w casglu gan bobol heb symptomau yn Ysgol Awel y Mynydd yng Nghyffordd Llandudno.
Dylai pobol gyda symptomau fynd i Ganolfan Busnes Conwy yng Nghyffordd Llandudno, ac nid oes rhaid gwneud apwyntiad er mwyn cael prawf.
Ar hyn o bryd, mae 58 achos o amrywiolyn Delta wedi’u cadarnhau yng Nghymru, ond mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn disgwyl i’r cyfanswm gynyddu.
“Symud yn sydyn”
“Mae hon yn sefyllfa sy’n symud yn sydyn. Byddwch ar eich gwyliadwriaeth am symptomau Coronafeirws, ac ewch am brawf nawr, os gwelwch yn dda,” meddai Richard Firth, Arbenigwr mewn Diogelwch Iechyd gydag Iechyd Cyhoeddus Cymru, a Chadeirydd Tîm Rheoli Achosion.
“Mae ymddangosiad cymaint o achosion newydd o’r amrywiolyn newydd trosglwyddadwy hwn yn ardal Cyffordd Llandudno, Llandudno a Bae Penrhyn yn atgoffa ni na ddylen fod yn hunanfodlon, hyd yn oed wrth i gyfraddau’r feirws ar draws Cymru barhau’n isel.
“Cyflymder yw’r ateb. Y cyflymaf rydyn ni’n gweithredu, y gorau, felly plîs, dewch yn eich blaen i gael eich profi cyn gynted ag y gallwch.
“Y mwyaf o bobol gyda symptomau sy’n dod yn eu blaenau, y mwyaf o achosion y byddwn ni’n eu darganfod.
“Gall mwy o bobol gael eu cyfeirio at y rhaglen Profi, Olrhain, a Diogelu wedyn, gan ganiatáu i swyddogion olrhain weithredu a rhoi stop ar ledaeniad yr amrywiolyn yn yr ardal.
“Os yw’r swyddogion olrhain yn cysylltu, plîs helpwch i ddiogelu eich cymuned drwy fod yn onest ynghylch eich symudiadau a chadw at eu cyfarwyddiadau,” ychwanega.
“Dw i hefyd yn annog unrhyw un dan 39 oed i gael eu brechu cyn gynted â phosib. Mae Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr yn cynnig sesiynau brechu ar gyfer pobol dan 39 oed heddiw (Dydd Mercher, Mehefin 2) a fory o 9am tan 7:30pm yn y Ganolfan Frechu Dorfol yn Venue Cymru, Llandudno.”
“Difrifol iawn”
Mae Eluned Morgan, Gweinidog Iechyd Cymru, wedi dweud heddiw fod y clwstwr yng Nghonwy yn “ddifrifol iawn”, a gallai olygu bod rhaid gohirio cynlluniau i lacio rhagor ar gyfyngiadau Covid.
Dywedodd wrth BBC Radio Wales Breakfast nad yw’r sefyllfa’n cael ei diffinio fel trosglwyddiad cymunedol ar hyn o bryd.
“Ond mae hi ar ei ffordd i fod yn hynny, a dyna pam ein bod ni wir angen i bobol yn yr ardal gydweithio â ni… er mwyn gwneud yn siŵr ein bod ni’n trïo atal yr amrywiolyn penodol hwn,” meddai Eluned Morgan.
“Y peth olaf rydyn ni eisiau ei weld ydy hwn yn lledaenu ar draws Gymru gyfan.”
Mae disgwyl i Mark Drakeford gyhoeddi diweddariad ar gyfyngiadau’r pandemig ddydd Gwener (Mehefin 4), a dywedodd Eluned Morgan fod y sefyllfa yng Nghonwy am ddylanwadu ar asesiad Llywodraeth Cymru.
Teithio i’r Undeb Ewropeaidd
Yn y cyfamser, mae’r Undeb Ewropeaidd wedi gohirio rhoi’r Deyrnas Unedig ar eu “rhestr wen” – rhestr o wledydd y mae gan bobol hawl i deithio ohonyn nhw i wledydd yr Undeb Ewropeaidd.
Mae nifer yr achosion Covid-19 yn y Deyrnas Unedig yn cwrdd â’r gofynion, ond mae’r Undeb Ewropeaidd wedi penderfynu oedi yn sgil y cynnydd mewn achosion sy’n ymwenud ag amrywiolyn Delta.