Yn dilyn dau gyfnod clo mae “cyfrifoldeb” ar gymdeithas i alluogi pobol anabl i fod yn rhan ohoni unwaith eto, yn ôl Swyddog Cydraddoldeb a Chynhwysiant Anabledd Cymru.

Fe hoffai Megan John weld y “rhwystrau” sy’n wynebu pobol anabl yn sgil covid yn troi’n “gyfle i greu dyfodol sy’n fwy hygyrch i bobol anabl”.