‘Ti’n barod?’ Mae Osian yn clirio’i lwnc ac yn nodio.

‘Barod.’

Mae o’r un fath â fi.

Dim brolio ydw i – na, mae cryfderau Osian wedi eu hetifeddu gan ei dad. Ei haelioni cynhenid. Ei synnwyr digrifwch caredig. Ond gen i, fe gafodd y ddau begwn amhosib o swildod anhygoel ac ysfa barhaus am sylw.