Oherwydd rheolau covid, roedd cefnogwyr clwb pêl-droed Caernarfon yn gorfod bod yn greadigol er mwyn gweld eu tîm yn ceisio am le yn Ewrop yn erbyn y Drenewydd ar gae’r Oval yn y dref.

Colli gartref fu hanes y tîm sy’n chwarae mewn cit gwyrdd a melyn ac yn cael eu hadnabod fel y Caneris, a hynny mewn gêm gyffrous lle’r oedden nhw yn ennill 3-2, cyn ildio tair gôl hwyr a chael eu trechu 5-3 yn y diwedd.

Llongyfarchiadau i’r Drenewydd!