Mae Pam French yn arweinydd grŵp o famau sydd yn codi calonnau pobol gogledd Caerdydd, ac mae llawer yn ei hystyried fel y ‘Rebel Mam’ gwreiddiol.

Mae grŵp y Rebel Mams yn weithredol yn ardaloedd Ystum Taf a Gabalfa, ac ers dechrau’r argyfwng covid maen nhw wedi bod yn hynod brysur yn cynnal llu o ddigwyddiadau.

Ymhlith y gweithgareddau maen nhw wedi eu trefnu, bu sesiynau ‘garddio guerrilla’, sef plannu planhigion mewn llefydd cyhoeddus, a sesiynau graffiti gobeithiol.