Cwpwl ifanc sy’n byw yn ardal Grangetown, Caerdydd, yw Peredur ac Eurgain.

Mae Eurgain yn gweithio i’r cyfryngau, ac mae Peredur yn gweithio i’r Cynulliad.

Mae’r ddau’n dod o bentrefi yn y Fro Gymraeg, y naill o’r gogledd a’r llall o’r de.

Ym Mhontcanna y bydden nhw’n hoffi byw mewn gwirionedd, i fod wrth galon cymuned Gymraeg gryfaf y ddinas, ond allan nhw ddim fforddio prynu tŷ yn yr ardal ddrud honno o’r ddinas eto.