Bydd tîm o weithwyr cymunedol profiadol yn estyn allan at bobol ddu, Asiaidd, a phobol o leiafrifoedd ethnig sy’n byw yn Sir Gaerfyrddin, Ceredigion, a Sir Benfro er mwyn eu helpu yn ystod y pandemig, fel rhan o ymdrech i arwain y ffordd gyda phrosiect sy’n mynd i’r afael ag anghydraddoldebau iechyd.

Cafodd y prosiect blwyddyn ei sefydlu mewn ymateb i argymhellion adroddiad gan Lywodraeth Cymru ar fynd i’r afael ag anghydraddoldebau iechyd, ac mae’n cael ei ariannu trwy grant o £75,000 gan NHS Charities Together.

Mae’r gwaith o ymgysylltu â chymunedau sydd wedi cael eu heffeithio gan Covid-19 eisoes wedi dechrau, dan arweiniad Stephani Kays, Rheolwr Allgymorth Datblygu Cymunedol.

Fis diwethaf, dechreuodd y tîm allgymorth fynd i’r afael â’r effaith anghymesur y mae’r pandemig wedi’i chael ar bobol o leiafrifoedd ethnig.

Bydd y tîm yn cysylltu â dros 10,000 o bobol o gymunedau lleiafrifoedd ethnig sy’n byw yn y tair sir sy’n rhan o Fwrdd Iechyd Hywel Dda.

Fe fydd y gweithwyr allgymorth yn datblygu cysylltiadau agos ag awdurdodau lleol, sefydliadau trydydd sector a grwpiau cymunedol er mwyn codi ymwybyddiaeth a dealltwriaeth o’r rhaglen Profi, Olrhain, Diogelu a’r rhaglen frechu.

Yn ogystal, byddan nhw’n sicrhau bod negeseuon iechyd ehangach yn hygyrch, ac yn cefnogi cymunedau lleiafrifoedd ethnig i gael gwell dealltwriaeth o’u hawliau a’u mynediad at ofal iechyd.

‘Arwain y ffordd’

Yn ôl Pennaeth Partneriaethau, Amrywedd, a Chynhwysiant y bwrdd iechyd, mae’r prosiect “yn arloesol”, a bydd yn canolbwyntio ar adeiladu cysylltiadau ac annog adborth a rhyngweithio.

“Mae’n gyfle gwych i arwain y ffordd wrth ymgysylltu â chymunedau sydd wedi dioddef yn niweidiol yn ystod y pandemig,” meddai Helen Sullivan.

“Bydd sefydlu rhwydweithiau effeithiol ar gyfer ymgysylltu ag unigolion, teuluoedd, cymunedau a chyda chyfryngwyr dibynadwy yn ei gwneud yn ofynnol i’r gweithwyr allgymorth cymunedol fod yn weladwy yn yr ardal.

“Mae ein dull yn cydnabod bod Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn cwmpasu chwarter tirfas Cymru a bydd yn sicrhau y gallwn ddarparu gwasanaeth hygyrch ac ymatebol ar draws ein hardal ddaearyddol fawr, sydd â phoblogaeth o 384,000.”

“Cefnogi cymunedau”

“Y gweithwyr allgymorth datblygu cymunedol fydd y cyswllt rhwng y bwrdd iechyd a’n cymunedau,” esbonia Ros Jervis, Cyfarwyddwr Cyhoeddus Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda.

“Byddant yn cefnogi camau cydlyniant cymunedol ac yn anelu at gael gwared ar unrhyw rwystrau i gael mynediad at wasanaethau.

“Bydd hyn yn cefnogi cymunedau lleiafrifoedd ethnig trwy gynyddu gwybodaeth leol ac ymwybyddiaeth ddiwylliannol, gan annog ymyrraeth gynnar ac atal i wella canlyniadau iechyd.”

Cafodd y prosiect ei ddatblygu ar sail tystiolaeth ddiweddar, a chyhoeddiadau am effaith Covid-19 ar gymunedau lleiafrifoedd ethnig yng Nghymru a thros y Deyrnas Unedig.