Mae Douglas Ross, arweinydd Ceidwadwyr yr Alban, yn hunanynysu ar ôl dod i gysylltiad â rhywun sydd wedi profi’n bositif am Covid-19.

Roedd e yn Senedd yr Alban fore heddiw (dydd Mercher, Mehefin 2) pan gafodd e wybod am y sefyllfa.

Gadawodd e’r adeilad ar ôl siarad â staff seneddol ac mae e wedi mynd i westy yng Nghaeredin.

Mae disgwyl iddo fe gael prawf Covid-19 cyn gynted â phosib, yn ôl ei blaid.

Bydd pedwar Aelod Seneddol Ceidwadol a phum aelod o staff yn cael profion fel rhagofal, tra bod dau aelod seneddol o blaid arall hefyd wedi cael cyngor i gael prawf