Mae’r blaid CUP yng Nghatalwnia yn dweud y dylai Catalwnia a’r Alban gynnal refferendwm annibyniaeth ar yr un diwrnod.

Mae’r gwrth-gyfalafwyr, sydd â naw Aelod Seneddol sy’n allweddol i’r mwyafrif o blaid annibyniaeth yn y Senedd, yn bwriadu cyflwyno’r fenter cyn gynted ag y bydd y cytundeb cenedlaethol ar amnest a hunanlywodraeth yn cael ei lansio yng Nghatalwnia – rhywbeth roedd yr Arlywydd newydd, Pere Aragonès, wedi’i addo pan ddaeth i rym.

Mae’r CUP wedi cynnig y dylid cynnal refferendwm erbyn 2025, ac wedi cytuno y gall llywodraeth Catalwnia yn lansio trafodaethau gyda Sbaen mewn ymgais i berswadio Madrid i dderbyn pleidlais annibyniaeth.

Ac eto, gan eu bod yn sinigaidd ynghylch llwyddiant y trafodaethau, maen nhw wedi pennu terfyn amser o ddwy flynedd ar gyfer strategaeth Pere Aragonès.

Ar ôl 2023, maen nhw’n bwriadu “gwrthwynebu” Sbaen yn ddemocrataidd os yw pleidlais debyg i’r Alban yn 2014 wedi’i gwrthod, “ar ffurf refferendwm os oes modd”.

Consensws

Mae pob plaid o blaid annibyniaeth wedi dod i gonsensws wrth geisio sicrhau cytundeb gyda Madrid, yn debyg i un Caeredin a Llundain ddegawd yn ôl a arweiniodd at refferendwm 2014 yn yr Alban.

Bellach, gan fod mwyafrif o’r Aelodau yn senedd newydd yr Alban yn anelu at gyflwyno ail bleidlais gyda chymeradwyaeth Llundain, mae’r CUP yn credu y dylid cynnal y ddau refferendwm ar yr un diwrnod.

Maen nhw eisiau gwneud hyn hyd yn oed os yw Llywodraeth y Deyrnas Unedig a Sbaen yn gwrthwynebu.

Mae disgwyl i’r Arlywydd Pere Aragonès alw ar bob sefydliad gwleidyddol a chymdeithasol i ddod at ei gilydd mewn cytundeb cenedlaethol ar gyfer hunanlywodraeth ac amnest i bawb sy’n ymwneud ag achosion cyfreithiol sy’n deillio o’r ymgyrch annibyniaeth.

Bydd hyn yn cael ei lansio cyn y cyfarfod cyntaf rhwng llywodraethau Catalwnia a Sbaen yn eu hymdrech i gymryd rhan mewn trafodaethau, a allai ddechrau cyn tymor gwyliau’r haf.