Mae Llety Arall, menter gymunedol yng Nghaernarfon sy’n darparu llety i ymwelwyr, yn agor ei ddrysau eto.

Bwriad gwreiddiol Llety Arall oedd cynnig llety fforddiadwy i deuluoedd, cyplau, unigolion a grwpiau o deithwyr – yn enwedig pobol â diddordeb yn iaith, treftadaeth a diwylliant Caernarfon.

Roedd hefyd yn fwriad ganddyn nhw estyn gwahoddiad arbennig i grwpiau o ddysgwyr Cymraeg wedi’i deilwra i anghenion y grŵp.

Wrth i’r cyfyngiadau gael eu llacio ymhellach, mae cyfle i ymwelwyr aros am dair noson neu fwy, gyda saith ystafell ar ddau lawr ar gael.

Mae gwesteion Llety Arall yn aros mewn adeilad sydd wedi cael ei adnewyddu, gan ddefnyddio deunyddiau, gweithwyr a chyflenwyr mor lleol â phosib.

Cafodd paneli cynhyrchu trydan eu gosod ar do’r adeilad, ac mae’r fenter yn parhau i gefnogi busnesau lleol o ddydd i ddydd.

‘Popeth yn Gymraeg’

“Rydym yn falch iawn o gael croesawu ymwelwyr eto ac rydym yn gwneud pob dim i sicrhau bod ein hymwelwyr yn ddiogel,” meddai Selwyn Jones, cadeirydd Llety Arall.

“Cadw pawb yn ddiogel – ymwelwyr, gwirfoddolwyr a’r gymuned ehangach – yw’r peth pwysicaf i ni.”

Mae’r fenter yn gobeithio croesawu grwpiau o ddysgwyr i Gaernarfon unwaith eto yn y dyfodol, ac mae croeso i unrhyw un sydd eisiau sgwrs bellach am ddod â grŵp i gysylltu i drafod eu cynlluniau.

“Caernarfon ydy tref Gymreiciaf y byd ac felly yn lle perffaith i ymdrochi yn yr iaith a chael blas ar fywyd sy’n naturiol yn Gymraeg,” medd Dani Schlick, aelod o fwrdd Llety Arall.

“Yma cewch chi’r profiad unigryw o wneud popeth yn Gymraeg.”