Mae’r siaradwr Cymraeg olaf ym mhentref Cwm-Yr-Eglwys, yng ngogledd Sir Benfro, wedi galw ar Lywodraeth Cymru i ddiogelu cymunedau rhag marw yn sgil yr argyfwng tai haf.

Dim ond dau o’r 50 o dai yn y pentref sydd â phobol yn byw ynddyn nhw yn barhaol erbyn hyn – ac mae’r trigolion hynny yn eu 80au.

Tai haf yw’r gweddill, oni bai am un, sydd ar werth am £1.3m.

Mae’r pentref yn hollol wag yn ystod y gaeaf a does dim tafarn na siop yno mwyach.

“Mae’n drist nad yw pobol ifanc Cymraeg yn gallu fforddio’r tai yma,” meddai Norman Thomas, sy’n 88 oed, wrth raglen ‘Dros Frecwast’ BBC Radio Cymru.

“Ar y Llywodraeth mae’r bai, a dylen nhw wneud rhywbeth i stopio fe, a rhoi siawns i’r locals – does dim siawns gyda nhw nawr.

“Does dim gwaith yn Sir Benfro iddyn nhw.

“Mae’n rhy hwyr i Gwm-yr-Eglwys, mae’r tai hyn i gyd wedi eu gwerthu i Saeson.

“Does gen i ddim byd yn eu herbyn nhw – maen nhw’n dod â gwaith yma.

“Pob gaeaf mae ’na waith yn mynd ymlaen ar y tai, a phobol o’r ardal sy’n ei wneud, a hebddo byddai pobol leol yn dioddef.”

Llywodraeth Cymru yn ‘edrych ar ba ymyriadau pellach sydd ar gael’

“Cymru yw’r unig genedl yn y Deyrnas Unedig i roi pwerau i awdurdodau lleol i godi lefelau uwch o dreth gyngor ar eiddo gwag tymor hir ac ail gartrefi,” meddai llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru.

“Yr awdurdod lleol sy’n penderfynu a chynyddu premiymau treth gyngor.

“Rydyn ni hefyd wedi cynyddu cyfradd uwch y Dreth Trafodiad Tir, sy’n berthnasol pan fydd pobol yn prynu eiddo ychwanegol.

“Rydym yn edrych ar ba ymyriadau pellach sydd ar gael a sut y gall ein partneriaid ddefnyddio pwerau presennol.”