Gyda dau achos o amrywiolyn Delta o Covid-10 wedi’u cadarnhau yn ardal Porthmadog, mae Grŵp Gwyliadwriaeth ac Ymateb Covid-19 Gwynedd yn annog trigolion sy’n datblygu symptomau i gael prawf cyn gynted â phosib.
Mae cyfanswm o 14 o achosion Covid-19 yn yr ardal, ac mae dau ohonyn nhw wedi’u cadarnhau fel amrywiolyn Delta.
Daw hyn wrth i Mark Drakeford ddweud fod amrywiolyn Delta yn achosi pryder, ac y gallai effeithio ar gynlluniau Llywodraeth Cymru i lacio cyfyngiadau Covid-19 yfory (4 Mehefin).
Yn sgil pryderon am amrywiolion, bydd Portiwgal yn symud at y rhestr oren hefyd, sy’n golygu y bydd rhaid i bobol hunanynysu wrth ddychwelyd i Gymru, a gweddill y Deyrnas Unedig.
“Testun pryder”
“Mae’r ffaith bod dau achos yn ardal Porthmadog wedi’u cadarnhau fel amrywiolyn Delta o’r haint yn destun pryder. Rydym yn aros am ganlyniadau profion i weld a yw’r 12 achos Covid-19 pellach yr un amrywiad, ac mae pob un ohonynt yn gysylltiedig,” dywedodd Dafydd Wyn Williams, Cadeirydd Grŵp Gwyliadwriaeth ac Ymateb Covid-19 Aml-Asiantaeth Gwynedd.
“Mae hyn yn ein hatgoffa nad yw Covid-19 wedi diflannu a’i bod cyn bwysiced ag erioed fod pobl leol ac ymwelwyr â’r ardal yn dilyn y rheolau i gadw eu hunain, eu teuluoedd a’r gymuned ehangach yn ddiogel.
“Byddem hefyd yn annog unrhyw un sy’n datblygu unrhyw symptomau Covid-19 i gael prawf ar unwaith. Fel rhan o’r ymdrechion ar y cyd ym Mhorthmadog, mae uned brofi symudol bellach ym maes parcio Llyn Bach yn y dref.”
“Chwarae ein rhan”
“Rydan ni’n gwybod fod y straen Delta o’r haint yn trosglwyddo yn rhwydd felly mae hi mor bwysig ein bod ni i gyd yn chwarae ein rhan i atal y lledaeniad,” meddai Dr Eilir Hughes, sy’n arwain Clwstwr Meddygon Teulu Dwyfor, ac sy’n aelod o Grŵp Gwyliadwriaeth ac Ymateb Gwynedd.
“Gallwn wneud hyn drwy aros yn yr awyr agored pan fyddwn yng nghwmni pobl eraill, gwisgo gorchudd wyneb, cadw at reolau pellter cymdeithasol a golchi dwylo yn rheolaidd. Os byddwch dan do, cofiwch gadw ffenestri a drysau ar agor er mwyn helpu i ddod â’r awyr iach i mewn.
“Mae’r achosion diweddaraf yma hefyd yn amlygu pwysigrwydd fod pob oedolyn yn cymryd y cyfle am frechiad Covid-19 cyn gynted ag y caiff ei gynnig iddynt. Mae hyn yn cynnwys yr ail ddos sy’n rhoi hwb pellach i lefel yr amddiffyniad yn erbyn yr amrywiad Delta.”
Llacio cyfyngiadau
Mae’r Prif Weinidog, Mark Drakeford, wedi dweud ei fod e’n poeni am amrywiolyn Delta heddiw hefyd.
“Mae gennym ni esiamplau o amrywiolyn Delta yma, nawr yng Nghymru, ac er eu bod nhw’n cael eu hasesu’n ofalus gan ein cydweithwyr iechyd cyhoeddus, mae rhai o’r clystyrau ar gryn raddfa erbyn hyn,” meddai Mark Drakeford.
Dywedodd hefyd y gallai’r pryderon ynghylch yr amrywiolyn effeithio ar gynlluniau Llywodraeth Cymru i lacio’r cyfyngiadau yfory, ond ei fod yn disgwyl am ystadegau heddiw (3 Mehefin).
“Byddaf yn symud ymlaen yn y ffordd arferol i gyhoeddi pa bynnag benderfyniadau y byddwn ni wedi gallu eu gwneud.”
Mae’n debyg mai amrywiolyn Delta yw’r amrywiolyn sydd i’w weld yn bennaf yn y Deyrnas Unedig erbyn hyn, ac mae tystiolaeth gynnar yn awgrymu y gallai arwain at gynnydd yn y risg o fod angen triniaeth ysbyty, o gymharu ag amrywiolyn (Alffa) Caint.
Teithio rhyngwladol
Mae Llywodraeth Cymru hefyd wedi cyhoeddi fod Portiwgal yn symud i’r rhestr oren am 4am ddydd Mawrth 8 Mehefin, a bydd rhaid i bobol sy’n dychwelyd i Gymru o’r wlad hunanynysu.
Bwriad y penderfyniad yw diogelu iechyd y cyhoedd yn sgil pryderon am ledaeniad amrywiolion, gan gynnwys amrywiolyn Delta.
Bydd saith gwlad arall – Sri Lanka, Swdan, Yr Aifft, Afghanistan, Bahrain, Trinidad a Thobago, a Chosta Rica – yn symud at y rhestr goch yr un pryd.
“Mae ein neges yn glir – dyma’r flwyddyn i gael gwyliau gartref,” meddai’r Gweinidog Iechyd, Eluned Morgan.
“Rydyn ni’n galw ar bobl i deithio dramor am resymau hanfodol yn unig. Rydyn ni i gyd wedi aberthu cymaint i reoli’r pandemig yng Nghymru, dydyn ni ddim eisiau gweld y feirws yn cael ei ail-fewnforio – neu amrywiolion newydd yn dod i mewn i’r wlad – o ganlyniad i deithio dramor.”