Bydd Boris Johnson yn cadeirio uwchgynhadledd adfer coronafeirws gydag arweinwyr y gwledydd datganoledig y prynhawn yma (dydd Iau, Mehefin 3).
Mae disgwyl i brif weinidogion a dirprwy brif weinidogion y pedair gwlad fod yn y cyfarfod o bell, yn ogystal â’r Canghellor Rishi Sunak, Michael Gove ac ysgrifenyddion gwladol Cymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon.
Roedd y cyfarfod i fod i gael ei gynnal yr wythnos ddiwethaf ond cafodd ei ohirio ar ôl i brif weinidogion Cymru a’r Alban dynnu allan am eu bod yn awyddus iddo fod yn “drafodaeth ystyrlon gyda chanlyniadau sylweddol”.
Yn dilyn hynny, ysgrifennodd Nicola Sturgeon a Mark Drakeford at y prif weinidog yn gofyn am fwy o sylwedd ac eglurder ynglŷn â’r uwchgynhadledd.
Cyn yr uwchgynhadledd, mae prif weinidog yr Alban wedi galw ar Lywodraeth y Deyrnas Unedig i ymestyn ffyrlo eto – a sicrhau nad yw anghydraddoldebau sy’n bod eisoes yn cael eu gwaethygu ymhellach gan yr argyfwng.
“Rydym wedi gwneud popeth o fewn ein gallu gyda’r pwerau cyfyngedig sydd gennym i fynd i’r afael ag anghydraddoldeb a lliniaru’r effaith y mae’r pandemig wedi’i chael ar fywoliaeth pobol, ond ni allwn ganiatáu i hynny gael ei erydu wrth i ni ddechrau ar y cam nesaf o fyw gyda’r feirws,” meddai Nicola Sturgeon.
“Byddai dychwelyd i’r llymder cyn y pandemig yn drychinebus i swyddi, i wasanaethau cyhoeddus ac i bobol a theuluoedd ledled yr Alban.
“Gyda Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn dal yr ysgogiadau ariannol allweddol i’n helpu i wella o hyn, byddaf yn galw arno i ymrwymo i gynnal gwariant cyhoeddus yn ystod y cyfnod adfer, ac i ymestyn y cynllun ffyrlo cyhyd ag y bo angen i ddiogelu busnesau a phobol y bu’n ofynnol iddyn nhw roi’r gorau i weithio i amddiffyn eraill, a byddaf yn pwysleisio ei fod yn cael ei reoli’n sensitif mewn ffordd sy’n cefnogi adferiad tymor hir.
“Rwyf wedi cael sicrwydd y bydd hon yn drafodaeth ystyrlon, ac mae’n rhaid ei bod.
“Ni all gweithio i wella o Covid fod yn weithred cysylltiadau cyhoeddus – rhaid iddo fod yn broses gydweithredol sy’n parchu’r setliad datganoli.
“Mae Llywodraeth yr Alban yn gofyn am sicrwydd ynghylch cyllid. Hebddo, ni fyddai gan bobol ledled yr Alban sydd wedi gorfod dioddef cymaint o’r 14 mis diwethaf hyn y sicrwydd bod eu swyddi’n cael eu diogelu, a bydd eu gwasanaethau cyhoeddus yn parhau i gael eu hariannu i lefel briodol.
“Beth bynnag fydd yn digwydd gyda’r feirws, dyna isafswm ein disgwyliadau.
“Er mwyn i’r uwchgynhadledd hon fod yn gynhyrchiol, rhaid i holl wledydd y Deyrnas Unedig gydweithio.
“Fel rhan o hynny, mae angen i Lywodraeth y Deyrnas Unedig sicrhau ymgysylltiad ystyrlon â’r Llywodraethau datganoledig ar negodi a llywodraethu cytundebau masnach, a pharchu’r Seneddau datganoledig drwy beidio â dargyfeirio arian i’w wario gan weinidogion y Deyrnas Unedig.”
Michael Gove am i’r llywodraethau “wynebu’r her gyda’n gilydd”
“Rwyf wrth fy modd bod arweinwyr y gweinyddiaethau datganoledig i gyd wedi ymateb yn gadarnhaol i wahoddiad y Prif Weinidog i ymuno â’r cyfarfod pwysig hwn ar adfer Covid,” meddai Michael Gove cyn y cyfarfod.
“Drwy gydol y pandemig, rydym wedi gweithio gyda’n gilydd i atal lledaeniad y feirws ac i gyflwyno brechlynnau sy’n achub bywydau.
“Mae ein llwyddiant ar y cyd wedi dangos i’r byd yr hyn y gallwn ei gyflawni fel Deyrnas Unedig.
“Mae’n rhaid i ni gymryd yr un agwedd at yr her anodd o ailadeiladu ein heconomi a’n gwasanaethau cyhoeddus o effaith niweidiol Covid-19.
“Ni fydd yn waith cyflym na hawdd, ond byddwn i gyd yn gwneud yn well os byddwn yn wynebu’r her gyda’n gilydd.”