Mae gwrthwynebwyr Benjamin Netanyahu, prif weinidog Israel, wedi cyhoeddi eu bod nhw wedi dod i gytundeb i ffurfio llywodraeth glymblaid newydd.

Daeth y cyhoeddiad dramatig gan Yair Lapid, arweinydd yr wrthblaid, a’i brif bartner clymbleidiol, Naftali Bennett, eiliadau cyn y dyddiad cau hanner nos, gan atal y wlad rhag gorfod cynnal yr hyn a fyddai wedi bod yn bumed etholiad mewn ychydig dros ddwy flynedd.

Enillodd Benjamin Netanyahu y nifer fwyaf o seddi yn etholiad mis Mawrth, ond doedd e ddim yn gallu sicrhau mwyafrif gyda’i gynghreiriaid crefyddol traddodiadol a chenedlaetholwyr.

Yn hollbwysig, gwrthododd plaid dde eithafol sy’n gysylltiedig â Benjamin Netanyahu ymuno â phlaid Arabaidd fach a ddaeth i’r amlwg fel un o’r rhai a allai fod yn hanfodol er mwyn ffurfio llywodraeth.

Mewn datganiad ar Twitter, dywed Yair Lapid ei fod e wedi hysbysu Arlywydd y wlad o’r cytundeb.

“Bydd y llywodraeth hon yn gweithio i holl ddinasyddion Israel, y rhai a bleidleisiodd dros y peth a’r rhai na wnaethon nhw,” meddai.

“Bydd yn gwneud popeth i uno cymdeithas Israel.”