Mae criw Bywyd Gwyllt Glaslyn wedi cyhoeddi blog yn egluro sut y bu i’w holl gywion gweilch ar Nyth Glaslyn farw yn y stormydd diweddar.

Maen nhw’n dweud bod “nifer o ffactorau wedi cyfrannu” at fethiant y nyth, a’i fod yn “gyfnod anodd” i’r tîm ond fod “dyddiau gwell ar y gorwel”.

Yn ôl y blog, mae cywion yn fregus iawn yn ystod dyddiau cyntaf eu bywydau ac mae angen eu bwydo’n rheolaidd.

Dim ond pedwar diwrnod oed oedd yr hynaf o’r cywion, oedd yn dal i ddibynnu ar eu rhieni i’w bwydo ac maen nhw’n dweud bod y storm “wedi dod ar yr adeg anghywir”.

Fe wnaeth Aran, y tad, roi’r gorau i anfon pysgod yn ôl i’r nyth ddydd Iau, Mai 20, er i’r fam, Mrs G, ddod o hyd i sbarion – roedd hyn yn golygu mai ychydig iawn o fwyd gawson nhw dros gyfnod o dridiau.

“Doedd ganddyn nhw ddim bwyd ar yr adeg roedden nhw ei angen fwyaf,” meddai’r blog.

“Byddai gofynion bwyd y cyw hynaf wedi bod yn fwy hanfodol na’r ddau gyw arall ac nid oedd yn hollol annisgwyl pan ddaeth y cyntaf i farw.

“Wrth iddyn nhw wanhau, nid oedd y cywion yn estyn i fyny ac yn agor eu pigau ac yn gofyn am fwyd, felly hyd yn oed pan oedd pysgod ar gael, nid oedden nhw’n cael eu bwydo fel y dylen nhw fod oherwydd nad oedd Mrs G yn derbyn yr arwyddion cywir oddi wrthynt.”

Ceisio ateb cwestiynau

Yn ôl tîm Glaslyn, diffyg bwyd oedd achos marwolaeth y cywion ac maen nhw’n dweud nad oedd oedran Mrs G yn ffactor, a hithau’n 20 neu 21 oed eleni.

Maen nhw’n dweud bod gweilch hŷn na hi wedi llwyddo i fagu cywion yn llwyddiannus – yn eu plith mae Green J oedd yn 25 oed yn magu.

“Wnaeth cywion Glaslyn i gyd ddeor yn llwyddiannus, roedden nhw’n iach yn ystod oriau cyntaf eu bywyd ac yn cael eu bwydo fel arfer nes i Aran gael ei anafu,” meddai’r criw.

“Yr amgylchiadau eleni wnaeth arwain at fethiant y pâr i fagu eu teulu yn llwyddiannus.”

Maen nhw wedyn yn mynd i’r afael ag ymosodiad gan Mrs G ar Aran pan ddychwelodd at y nyth heb bysgodyn.

“Roedd y brain yn trafferthu’r nyth yn barhaus yn ystod absenoldebau Aran,” meddai’r criw.

“Mae’n annhebygol ei bod hi’n ddig efo Aran oherwydd nad oedd wedi dal pysgodyn, ond roedd ei straen a’i rhwystredigaeth wedi ei gamgyfeirio tuag at Aran, yn hytrach na’r brain.”

Maen nhw’n dweud ei bod hi bellach yn rhy hwyr i’r pâr geisio magu cywion eto eleni gan na fyddai digon o amser cyn iddyn nhw adael y nyth ar ddechrau’r hydref.

Gofalu

Yn ôl y criw, bydd Aran a Mrs G yn aros ar y nyth am weddill y tymor ac yn ei amddiffyn rhag gweilch “ymwthiol” sy’n ceisio meddiannu’r nyth.

Dydy hi ddim yn glir ar hyn o bryd a fyddan nhw’n paru eto.

Bydd y criw yn parhau i ddarparu brithyll seithliw ar y nyth nes bod Aran yn gallu pysgota eto ar ôl gwella o’i anafiadau.

Er y gallai Mrs G bysgota drosti ei hun, mae’n annhebygol y bydd hi’n rhannu’r bwyd ag Aran, sydd wedi arfer â physgota drosto’i hun.