Parc Cenedlaethol Eryri yw’r “lle hapusaf” yng Nghymru, yn ôl ymchwil newydd gan y Loteri Genedlaethol.

Mae’r ymchwil yn dangos cymaint mae’r cyhoedd wedi gweld eisiau ymweld â’u ‘lle hapus’ – eu hoff atyniad neu leoliad – yn ystod y cyfnod clo, yn ogystal â’r lleoliadau ‘hapus’ mwyaf poblogaidd ar draws Cymru.

Cafodd yr ymchwil ei chomisiynu i ddathlu Wythnos Agored y Loteri Genedlaethol a Phenwythnos Sinemâu’r Loteri Genedlaethol y mis hwn.

Yn ystod yr wythnos, bydd lleoliadau ar draws y Deyrnas Unedig yn cynnig gostyngiadau a mynediad am ddim fel diolch i chwaraewyr y Loteri Genedlaethol am y £30m sy’n cael ei godi ar gyfer achosion da bob wythnos.

Daeth Parc Cenedlaethol Eryri i frig y bleidlais, gyda 48%, fel y lle y byddai’r rhan fwyaf o bobol yn ei ystyried fel yr atyniad gorau yng Nghymru.

Roedd Sain Ffagan: Amgueddfa Werin Cymru yng Nghaerdydd (34%), Castell Caerdydd (29%) a Gardd Fotaneg Genedlaethol Cymru yn Sir Gaerfyrddin (27%) hefyd ymhlith y llefydd hapusaf.

Y llefydd hapusaf a’u hapêl

Y mathau o ‘leoedd hapus’ roedd pobol yn gweld eu heisiau fwyaf yn ystod y cyfnod clo oedd y cefn gwlad ehangach (61%), safleoedd treftadaeth megis cestyll a gerddi (34%) a theatrau neu sinemâu (28%).

Yn ôl yr astudiaeth, mae bron i naw ym mhob deg o oedolion Cymru (88%) wedi colli eu ‘lle hapus’ yn ystod y cyfnod clo, tra bod dros hanner (55%) wedi datblygu mwy o werthfawrogiad o atyniadau ymwelwyr, safleoedd diwylliannol, hanes a chelfyddydol y Deyrnas Unedig yn dilyn y pandemig.

Pan gawson nhw eu holi pam eu bod nhw wedi dewis eu lle hapus, dywedodd oedolion Cymru ei fod yn “codi’r hwyliau” (34%), “mae’n lle rwy’n gyfarwydd ag ef” ac “nid yw byth yn methu â fy rhyfeddu” (31%).

“Mae Wythnos Agored a Phenwythnos Sinemâu’r Loteri Genedlaethol yn gyfnod gwirioneddol gyffrous yn y flwyddyn i ni, lle mae amrywiaeth anhygoel o leoliadau a phrosiectau led y Deyrnas Unedig yn rhoi diolch i chwaraewyr y Loteri Genedlaethol am y £30 miliwn y byddant yn ei godi pob wythnos ar gyfer Achosion Da,” meddai Ros Kerslake, Prif Weithredwr Cronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol a Chadeirydd Fforwm y Loteri Genedlaethol.

“Nawr, yn fwy nag erioed o’r blaen, mae pobol yn gyffrous i ailddarganfod eu lle hapus, neu i ganfod lle newydd yn agosach at adref, ac rydym yn falch fod cymaint o leoedd anhygoel ar draws y sectorau chwaraeon, celfyddydol, treftadaeth a chymuned wedi cofrestru i gynnig eu diolch.” 

Dathlu

Mae’r Loteri Genedlaethol hefyd wedi comisiynu’r ffotograffydd, Tom Oldham i dynnu cyfres o bortreadau sy’n dathlu’r bobol sy’n ailymweld â’u lleoedd hapus yn dilyn y cyfnod clo.

Mae’r rhain yn cynnwys Daniel Jervis, sy’n obeithiol am fedal yn y Gemau Olympaidd yn Tokyo, a Xavier Castelli sy’n dychwelyd i’r Pwll Nofio Cenedlaethol yn Abertawe.

Mae Kate Jones o Bort Talbot hefyd yn rhan o gyfres o bortreadau newydd wrth iddi ddychwelyd i’w ‘lle hapus’ hi, sef Amgueddfa Werin Cymru yn Sain Ffagan.

Bydd yr holl leoliadau dan sylw yn cymryd rhan yn Wythnos Agored y Loteri Genedlaethol neu Benwythnos Sinemâu’r Loteri Genedlaethol.