Mae ymchwiliad ar y gweill yn dilyn sawl digwyddiad hiliol honedig ar drenau ac yng ngorsafoedd yng Nghymru.

Yn Abertawe, maen nhw wedi cyhoeddi lluniau o ddynes y tu allan i orsaf y ddinas sy’n dweud iddi gael ei sarhau yn rhywiol ac yna’n hiliol gan grŵp o ddynion ar nos Iau, Mai 6.

Ac yng Ngheredigion, mae Trafnidiaeth Cymru wedi beirniadu ymddygiad “ffiaidd” ar drên i Aberystwyth, lle mae dynes yn dweud iddi gael ei sarhau’n hiliol.

Yn ôl Rosedona Williams, cafodd ei “sarhau a’i phoenydio” wrth i griw o ddynion a merched gyfeirio ati hi a phobol eraill o dras ethnig lleiafrifol fel “cŵn”, ac mae’n dweud iddyn nhw wneud saliwt Natsïaidd ati.

Mae’n dweud nad dyma’r tro cyntaf i hyn ddigwydd dros y blynyddoedd diwethaf, a bod y sylwadau wedi’u hanelu ati hi, person du arall a thri o bobol o dras Asiaidd.

Mae Trafnidiaeth Cymru’n annog pobol i fynd atyn nhw os oes ganddyn nhw wybodaeth am y digwyddiad yma neu ddigwyddiadau eraill.

Yn ôl Heddlu Trafnidiaeth Prydain, maen nhw’n “ymchwilio i adroddiad o ddigwyddiad hiliol ddydd Sul 30 Mai ar drên rhwng Machynlleth ac Aberystwyth”.