Mae llanc 17 oed o Aberystwyth yn dweud ei fod yn “hapus” bod ei ddiweddariadau Covid dyddiol wedi bod o gymorth i bobol.

Ers Mawrth 11 y llynedd – cyn y clo cyntaf – mae Lloyd Warburton yn rhannu ystadegau diweddaraf y pandemig ar-lein.

Ond ar ôl treulio 15 mis yn rhoi diweddariadau bob dydd, gan gynnwys ar benwythnosau, ac wrth i sefyllfa’r argyfwng wella, mae bellach wedi cyhoeddi y bydd yn arafu pethau ryw ychydig.

Fory fydd ei ddiweddariad dyddiol olaf ac yna, hyd at ddiwedd y mis, fydd e ddim ond yn rhoi chwe diweddariad yr wythnos. Dim ond un diweddariad yr wythnos fydd ganddo yn y pendraw.

O fwrw golwg yn ôl ar y misoedd diwethaf, mae’r llanc – sydd â dros 23,000 o ddilynwyr ar Twitter – yn rhyfeddu bod pobol wedi dal ati i’w gefnogi cyhyd.

“Mae’n teimlo bach yn rhyfedd fod pobol dal yn talu sylw ar ôl yr holl amser,” meddai wrth golwg360.

“Ond mae hefyd yn fy ngwneud i bach yn hapus bod pobol yn gweld beth dw i wedi ei wneud fel rhywbeth pwysig a rhywbeth positif sydd wedi’u helpu nhw.

“Oherwydd, ar y dechrau, jest hobby project oedd e’. Ond os mae wedi tyfu mewn i rywbeth mwy, ac mae pobol wedi defnyddio fe, ac mae wedi helpu pobol, mae hwnna’n wych.”

Mae Lloyd Warburton yn dal yr un mor awyddus i rannu ystadegau, ac mae’n dweud yr hoffai ganolbwyntio yn fwy ar ffigurau nad ydyn nhw’n ymwneud â Covid.

“Mae lot o bethau ar wefan Stats Wales y Llywodraeth, ac mae lot ohono fe yn cael ei anwybyddu a does neb yn edrych arno fe,” meddai.

“Felly mae pethau sydd ar y wefan sy’n ddiddorol. Ac efallai y byddai’n helpu pobol os ydw i’n cael mwy o bobol i fod yn fwy ymwybodol o’r data. Dim byd rhy serious – jest pethau diddorol.”

Dilyn yr ystadegau

O adrodd ffigurau’r feirws cyhyd, mae’n rhaid bod yr ystadegydd ifanc yn deall y feirws yn well na llawer, felly tybed a yw e wedi sylwi ar unrhyw batrymau diddorol?

“[Un peth yw] bod lockdowns yn gweithio,” meddai. “Roedd y firebreak nôl ym mis Hydref – a daeth y ffigurau i lawr am tua thair wythnos ar ôl y firebreak.

“Felly beth bynnag rydych chi’n clywed ar y radio a’r teledu, mae lockdowns yn gweithio.

“Ond maen nhw’n short term solution. Os ydych chi’n cofio, ar ôl y firebreak, aeth y ffigurau lan bron vertically.”

Mae Lloyd Warburton yn lleihau ei waith Covid yn raddol, felly a ddylwn gymryd ei fod yn optimistaidd am drywydd yr argyfwng? A yw diwedd y pandemig o fewn cyrraedd?

“Sa i’n siŵr,” meddai. “Mae pethau’n edrych yn dda yng Nghymru. Ond yn Lloegr, a’r Alban yn enwedig, mae pethau’n dechrau gwaethygu eto.

“Ond mae gan Gymru y fantais o frechu mwy o bobol. Os bydd trydedd don bydd Cymru’n dod allan tamaid bach yn well na gweddill Prydain.

“Ond sa i wir yn meddwl bydd y feirws jest yn diflannu dros yr haf. Dw i’n credu y bydd e’n aros tan o leiaf gweddill y flwyddyn.”

Mae e eisoes wedi dweud y buasai’n aildanio ei ddiweddariadau covid dyddiol pe bai’r argyfwng yn dwysáu unwaith eto.

Cyhoeddiad Lloyd

Seren yr ystadegau a “darpar Brif Weinidog”

Iolo Jones

Mae’r disgybl ysgol Lloyd Warburton yn seren ar wefan Twitter…