Mae Metro Bank yn dweud eu bod yn “edrych ymlaen” at groesawu cwsmeriaid yn ôl i’r Stryd Fawr yn dilyn y cyfyngiadau symud.

Mae gan Gaerdydd ddwy siop Metro Bank sydd wedi’u lleoli yn Heol y Frenhines a Ffordd Casnewydd.

Erbyn hyn, mae’r ddwy siop yn dweud bod cwsmeriaid yn dychwelyd i’r banc ar ôl gweld cynnydd cyson yn nifer yr ymweliadau cwsmeriaid rhwng canol mis Mawrth a chanol mis Mai – gyda’r niferoedd wedi cynyddu 88%.

Agorodd Banc Metro Ffordd Casnewydd yn ystod y pandemig y llynedd ac fel gwasanaeth hanfodol, mae’r banc wedi aros ar agor drwy gydol y pandemig, ond yn gweithredu ar oriau is.

Bellach, mae’r ddwy siop yn ôl i fod yn agored saith diwrnod yr wythnos – ar agor o ddydd Llun i ddydd Sadwrn 8:30yb i 6yh ac ar ddydd Sul o 11yb i 5yh.

Tyfu

“Ers agor fis Mehefin diwethaf, mae cwsmeriaid sy’n ymweld â’n siop yn Ffordd Casnewydd wedi aros yn eithaf cyson – mae gennym unig fanc drive thru Cymru, sydd wedi helpu cwsmeriaid i gael mynediad i’n gwasanaethau tra’n ymbellau’n gymdeithasol”, meddai Leanne Sutton, rheolwr y gangen.

“Nawr bod Cymru ar fin agor yn llawn, rydym yn edrych ymlaen at dyfu ein sylfaen cwsmeriaid hyd yn oed yn fwy.

“Er gwaethaf y pandemig, rydym wedi helpu cwsmeriaid bob dydd yn ystod y cyfyngiadau symud gyda’u bancio hanfodol.

“Rydym yn rhan annatod o’r gymuned leol hon ac wedi bod yma i helpu, felly mae’n wych ein bod, ers i’r cyfyngiadau symud godi, wedi gweld cynnydd cyson yn nifer y cwsmeriaid sy’n dod yn ôl i’n siopau.

“Edrychwn ymlaen at groesawu’n ôl unrhyw gwsmeriaid sydd heb gael cyfle i alw heibio a’n gweld eto”.