Mae mwy na £25m yn cael ei fuddsoddi mewn offer delweddu newydd i sicrhau bod gan y Gwasanaeth Iechyd yng Nghymru fynediad at y dechnoleg ddiweddaraf.

Bydd y buddsoddiad, a fydd yn talu am uwchraddio technoleg ac offer hanfodol fel sganwyr MRI, yn helpu i roi diagnosis a thriniaeth gynharach ar gyfer canser a chlefydau eraill.

Yn ogystal, bydd yn gwella cadernid a dibynadwyedd yr offer diagnostig sydd ar gael i’r Gwasanaeth Iechyd, meddai Llywodraeth Cymru.

Bydd buddsoddi mewn gwasanaethau diagnostig ar draws byrddau iechyd ac ymddiriedolaethau’r Gwasanaeth Iechyd yn helpu’r gwasanaeth i adfer wedi’r pandemig ac yn gwella’r gofal i gleifion.

Fe fydd gwasanaethau canser yn derbyn hwb sylweddol, gyda buddsoddiad newydd mewn sganwyr CT, camerâu gama ac ystafelloedd delweddu MRI a phelydr-x fflwrosgopeg.

Y buddsoddiadau

Bydd Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe yn cael £5.5m tuag at dechnoleg gofal canser, a dywedodd Sarah Gwynne, oncolegydd clinigol ymgynghorol Ysbyty Singleton, y byddai’r offer yn gwneud gwahaniaeth i’r driniaeth.

“Bydd y sganiwr CT newydd yn ein galluogi i roi triniaeth radiotherapi i ladd celloedd canser yn fwy manwl gywir, gan anfon y dos i’r mannau sydd ei angen ac osgoi’r mannau cyfagos,” meddai Sarah Gwynne.

“Mae hyn yn arbennig o bwysig mewn triniaeth canser y fron, yr oesoffagws a’r ysgyfaint, lle gall symudiadau anadlu ei gwneud yn anoddach fyth i dargedu mannau penodol.”

Bydd gweddill y cyllid yn darparu:

  • £2.3m ar gyfer sganiwr CT a dwy ystafell radioleg ddiagnostig yn Ysbyty Ystrad Fawr, Ystrad Mynach
  • £3.3m ar gyfer camera gama ac ystafell radioleg ymyriadol yn Ysbyty Maelor Wrecsam.
  • £2.1m ar gyfer efelychydd CT yn Ysbyty Glan Clwyd
  • £3.2m ar gyfer labordai yn Ysbyty Athrofaol Caerdydd
  • £3.1m i uwchraddio ystafelloedd MRI a fflworosgopeg Ysbyty Tywysoges Cymru, Pen-y-bont ar Ogwr.
  • £4.5m ar gyfer sganiwr CT newydd yn Ysbyty Glangwili, ac Ysbyty Llwynhelyg, Sir Benfro.
  • £1m i uwchraddio offer MRI a delweddu pelydr-x yng Nghanolfan Canser Felindre.
  • £350,000 ar gyfer pedwar peiriant uwchsain yn ysbytai Aberhonddu, y Drenewydd, Llandrindod, a’r Trallwng.

“Cefnogi adferiad”

“Ein blaenoriaeth yw cefnogi adferiad y Gwasanaeth Iechyd a dyma gam cyntaf i sicrhau bod gan y gwasanaeth iechyd fynediad at ddigon o allu diagnostig i ymdrin â’r bobl sydd ar y rhestrau aros o ganlyniad i’r pandemig,” meddai’r Ysgrifennydd Iechyd, Eluned Morgan.

“Nid yw’r pandemig ar ben eto. Mae buddsoddi yn y rhaglen gyfalaf genedlaethol ar gyfer darparu offer diagnostig newydd, ac uwchraddio’r offer sydd ar gael i’n gweithlu gofal iechyd anhygoel yn allweddol i roi diagnosis, triniaeth a gofal i bobl wrth inni edrych i’r dyfodol.

“Bydd y buddsoddiad hwn o £25m yn darparu offer newydd yn lle hen rai fel rhan o’n hymdrech i sicrhau y gall y GIG ymateb i’r galw gan ddarparu gwasanaethau cadarn.”

Mwy o bobol nag erioed ar restrau aros Gwasanaeth Iechyd Cymru

Llywodraeth Cymru’n cyhoeddi buddsoddiad gwerth £100m wrth i ffigurau diweddaraf ddangos bod 18% o boblogaeth y wlad ar restrau aros