Dyna farn Jess Blair, Cadeirydd Cymdeithas Diwygio Etholiadol (Electoral Reform SocietyERS) Cymru.

Ers dechrau datganoli yn 1999 mae dinasyddion y wlad hon wedi cael eu cynrychioli ym Mae Caerdydd gan 60 Aelod o’r Senedd.

A thros y blynyddoedd mae llu o adroddiadau – gan gynnwys Adroddiad Richard (2004), Adolygiad McAllister (2017), ac Adroddiad Pwyllgor Diwygio Etholiadol y Senedd (2020) – wedi galw am godi’r nifer i naill ai 80 neu 90.