Mae gen i ddyled fawr i amaethyddiaeth a chefn gwlad. Heblaw am gefnogaeth ffermwyr a chymunedau gwledig fyddwn i ddim wedi cyrraedd y Cynulliad, fel ag yr oedd bryd hynny.

Yn 90au’r ganrif ddiwethaf roedd cannoedd o ffermwyr yn troi lan i’r hystings wedi eu trefnu gan undebau’r NFU, FUW, y Tirfeddianwyr, a llu o fudiadau gwledig eraill.

Nid oeddent yn lle i wleidyddion ofnus a dihyder. Gallai’r gynulleidfa fod yn gwbl ddidrugaredd petaen nhw yn synhwyro unrhyw wendid.