Mae Cyngor Llyfrau Cymru wedi cyhoeddi mai Lily Mŷrennyn yw enillydd cystadleuaeth darlunio llyfr stori-a-llun i blant, cystadleuaeth arbennig a gafodd ei threfnu gyda’r Urdd.

Y dasg oedd creu gwaith celf gwreiddiol i gyd-fynd â stori fer i blant gan Manon Steffan Ros, un o brif awduron Cymru a cholofnydd Golwg.

Cafodd y wobr ei dyfarnu i Lily, sy’n 24 oed ac yn dod o’r Rhondda, am ei gwaith celf “neilltuol o gain” a’i “meistrolaeth ar y grefft o greu naratif drwy lun”.

Fel rhan o’r wobr, mae’r llyfr, Y Soddgarŵ, wedi cael ei gyhoeddi gan gwmni Atebol yr wythnos hon.

“Mae wedi bod mor gyffrous i gael fy newis i weithio ar y prosiect hwn, yn enwedig yn ystod amser mor ansicr i raddedigion newydd,” meddai Lily Mŷrennyn, a raddiodd o gwrs Darlunio yng Ngholeg Celf Abertawe, Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant y llynedd.

“Rydw i’n teimlo’n lwcus iawn i gael cyfle i ddechrau fy ngyrfa greadigol gyda llyfr mewn print.”

“Dealltwriaeth, hyder a meistrolaeth”

“Dyma artist sy’n dangos dealltwriaeth, hyder a meistrolaeth ar y grefft o greu naratif drwy lun,” meddai beirniad y gystadleuaeth, yr artist graffeg Derek Bainton.

“Mae’r gwaith celf yn neilltuol o gain, ac yn cyfuno nifer o sgiliau medrus fel technegau traddodiadol a digidol.

“Mae naws bersonol a chynnes i’r palet lliw, sy’n clymu’r cyflwyniad at ei gilydd yn hyfryd mewn modd cydlynus, proffesiynol a gwreiddiol.”

“Ehangu apêl llyfrau”

“Llongyfarchiadau gwresog i Lily Mŷrennyn a diolch yn fawr i bawb sydd wedi bod yn rhan o’r gystadleuaeth arbennig hon,” ychwanegodd Helen Jones, Pennaeth Adran Llyfrau Plant a Hyrwyddo Darllen Cyngor Llyfrau Cymru,

“Mae darluniadau yn gallu gwneud cyfraniad anfesuradwy at y grefft o adrodd stori gan ehangu apêl llyfrau, yn enwedig felly llyfrau plant.

“Mae’n hollbwysig ein bod yn meithrin a hybu safon a thalent newydd yn y maes yma yng Nghymru.”

“Hynod falch”

Bydd y Cyngor Llyfrau yn gweithio gyda’r Urdd eto er mwyn cynnal ail gystadleuaeth i ddarlunwyr ifanc yn Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd flwyddyn nesaf.

“Mae wedi bod yn bleser cydweithio â Chyngor Llyfrau Cymru ar y gystadleuaeth yma a’i chynnwys yn ein Rhestr Testunau, ar gyfer Eisteddfod yr Urdd 2020 yn wreiddiol,” meddai Siân Eirian, Cyfarwyddwr Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd.

“Prif bwrpas Eisteddfod yr Urdd yw rhoi cyfleoedd celfyddydol newydd i bobl ifanc, ac felly rydym yn hynod falch o gael cyhoeddi enw’r enillydd, Lily Mŷrennyn, a dathlu cyhoeddi’r llyfr Y Soddgarŵ yn ystod Eisteddfod T eleni.”

  • Gallwch weld mwy o waith celf Lily Mŷrennyn yma.