Wedi ei magu ym mhentref Moelfre ar arfordir Môn, fe adawodd Donna Lee’r ynys am y tir mawr i astudio Addysg Grefyddol a Diwinyddiaeth ym Mhrifysgol Manceinion yn 2002.

Ond bandiau, nid y beibl, oedd ei gwir reswm am fynd i’r coleg yn y ddinas sy’n enwog am ei grwpiau gwych.