Sali Mali ar fin cyrraedd Tal-y-bont

Bydd rhai o lyfrau enwocaf y Gymraeg yn cael eu symud o ganolfan Gwasg Gomer yn Llandysul i warws newydd Y Lolfa yn Nhal-y-bont. Wedi i weisg Y Lolfa ac Atebol brynu’r cwmni o Landysul, mae gwaith adeiladu wedi bod yn digwydd yng ngogledd y sir i baratoi i groesawu’r amrywiaeth eang o lyfrau sydd ar ôl-restr Gwasg Gomer – casgliad sy’n dyddio’n ôl i 1946.

Gallwch ddarllen mwy am obeithion Atebol a’r Lolfa at y dyfodol ar BroAber360.

Llyfrau

Sali Mali ar fin cyrraedd Tal-y-bont!

Betsan Siencyn

Hanes llyfrau Gwasg Gomer yn cyrraedd Tal-y-bont

 

Côr Dre yn ymarfer eto

“Dw i wedi methu fo, de.” Roedd y tenor Trey McCain wrth ei fodd yn cael mynd i’r côr am y tro cyntaf ers misoedd lawer, pan ailddechreuwyd ymarferion awyr agored yng Nghaernarfon yn ddiweddar.

Ewch i’r wefan fro i weld fideo gan yr aelodau – efallai gall ysbrydoli eich côr neu’ch mudiad chi i fentro a dod ynghyd unwaith yn rhagor.

Côr Dre yn ymarfer eto

Marged Rhys

Y côr wedi ailgychwyn, yn canu’r hen a’r newydd

  

Mi fydd bwlch ym Mangor Ucha’ ar ei ôl

Syfrdanwyd ardal Bangor a thu hwnt o glywed y newyddion trist am farwolaeth sydyn Dewi Llewelyn, yn dilyn trawiad ar y galon.

“Roedd Dewi yn ddyn ymarferol, yn drydanwr, yn blymar ac yn blastrwr, yn godwr waliau brics, ac yn giamstar am wneud hynny. Yr oedd yn ddyn busnes craff ond hawdd ei gymwynas ac yn ddyn teg.”

Mae teyrnged i’r perchennog busnes a’r cyn-gynghorydd hoffus wedi’i chyhoeddi ar BangorFelin360.

Blas o’r Bröydd

Dyma flas o’r fideos, orielau ac erthyglau sydd wedi’u cyhoeddi ar rwydwaith Bro360 dros yr wythnos ddiwethaf

 

Straeon bro poblogaidd yr wythnos

  1. Y postmon lleol yn cyrraedd Clawdd Offa, gan Sioned Davies ar Clonc360
  2. Nathan Jenkins, Principality – y flwyddyn a fu, gan Rhys Bebb Jones ar Clonc360
  3. Heddlu yn parhau gyda’r chwilio am Frankie Morris, gan Carwyn Meredydd ar Ogwen360