Dw i’n cofio eistedd ar drên o Lille i Lyon yn 2016 yn darllen L’Equipe a gweld baner Cymru yn y rownd gynderfynol a gorfod pinsio fy hunan bod e’n digwydd. Dw i’n cofio edrych draw i checio bo’ fi yna gyda fy ffrindie a ddim jyst yn dychmygu’r holl beth. Hyd yn oed ar y pryd ro’n i’n gwbod bod gêm Gwlad Belg yn rhyw fath o uchafbwynt na fydde’n cael ei gyrraedd eto. Wnes i ’rioed deimlo rhyw siom enfawr ar golli i Bortiwgal yn y semi – os dw i’n hollol onest, ar ôl mis