Newyddion gwych gyfeillion, mae’r Tori mawr Jacob Rees-Mogg yn hanu o deulu o Gymry glân gloyw.

Chwi gofiwch mai’r Polyn Posh a addysgwyd yn Eton ydy Arweinydd Tŷ’r Cyffredin draw yn Llundain.

Ac wrth ateb cwestiwn am roi mwy o arian i S4C er mwyn hybu’r iaith Gymraeg yn yr Oes Ddigidol, roedd yr Etoniwr yn brolio Iaith y Nefoedd yn siambr San Steffan.

“Heb os mae’r Gymraeg yn iaith brydferth a hynafol yn y wlad hon,” ebe Jacob.