Bydd 16 o enillwyr Eisteddfod T eleni yn cael cyfle i ymuno â chôr newydd sbon – Côr yr Urdd – ac yn teithio i Alabama y flwyddyn nesaf.
Er mwyn nodi canmlwyddiant yr Urdd yn 2022 bydd y côr yn cael ei ffurfio er mwyn cynnig cyfleoedd i bobol ifanc ar hyd a lled Cymru i ddod at ei gilydd yn enw’r Urdd, a theithio i’r Unol Daleithiau.
Ynghyd â’r 16 buddugol, bydd yr Urdd yn trefnu clyweliadau agored i fwy o aelodau’r Urdd rhwng 18 a 25 oed gael ymgeisio am le i fod yn rhan o’r côr.
Daw’r cyfle yn sgil partneriaeth drawsatlantaidd yr Urdd gyda Phrifysgol Alabama ym Mirmingham (UAB), a’r gobaith yw bydd Côr Gospel UAB yn dod i Gymru i berfformio yn Eisteddfod yr Urdd Sir Ddinbych 2022.
Ymosodiad
Cafodd y berthynas â chymuned Affro Americanaidd Birmingham, Alabama ei ffurfio dros hanner canrif yn ôl yn dilyn ymosodiad terfysgol gan y Klu Klux Klan ar Eglwys y Bedyddwyr, 16th Street.
Fel arfer o gefnogaeth ac undod, rhoddodd pobol Cymru ffenestr liw i’r eglwys, ac mae’n cael ei hadnabod hyd heddiw fel y ‘Wales Window’.
Fe wnaeth ymweliad swyddogol Siân Lewis, Prif Weithredwr yr Urdd, a Gweinidog Addysg Cymru ar y pryd, Kirsty Williams, â’r eglwys a phobol ifanc Birmingham yn 2019 gryfhau’r berthynas.
O ganlyniad, roedd Côr Gospel Prifysgol Alabama wedi bwriadu ymweld ag Eisteddfod yr Urdd yn 2020, ond ni ddigwyddodd hynny yn sgil y pandemig.
Ond, cafodd côr gospel rithiol ei ffurfio ar y cyd rhwng rhai o aelodau’r Urdd a myfyrwyr y Brifysgol, ac er mwyn dathlu Diolchgarwch daeth y ddau griw ynghyd i ganu fersiwn Gymraeg, ‘Canwn Glod’, o ‘Every Praise’ gan Hezekiah Walker.
Yn ogystal â chanu mewn cyngherddau yn Alabama, bydd Côr yr Urdd yn dysgu mwy am y traddodiad canu gospel a hanes hawliau sifil Alabama.
Y Côr
Y rhai hynny sydd wedi cyrraedd rowndiau terfynol y cystadlaethau canlynol yn yr Eisteddfod eleni fydd yn rhan o’r côr:
- Cyflwyno Alaw Werin Bl.10 a dan 25 oed – Gwenan Mars, Nansi Rhys Adams, Daniel O’Callaghan
- Unawd Bl.10 a dan 19 oed – Sophie Jones, Lili Beth Mohammad, Lauren Williams
- Unawd allan o Sioe Gerdd Bl.10 a dan 19 oed – Lili Beth Mohammad, Ela Vaughan, Elen Morlais
- Unawd 19-25 oed – Dafydd Jones, Dafydd Allen, Esyllt Thomas
- Unawd Cerdd Dant Bl.10 a dan 25 oed – Lleucu Arfon, Fflur Davies, Elin Fflur Jones
- Unawd allan o Sioe Gerdd 19-25 oed – Catrin Mai Edwards, Elinor Parsons, Fflur Davies
Bydd mwy o fanylion am y clyweliadau i ymuno â’r côr yn cael eu cyhoeddi ar wefan a chyfryngau cymdeithas yr Urdd dros y misoedd nesaf.