Enillodd actores o Gaerdydd a chyd-gynhyrchiad S4C a Channel 4 wobrau BAFTA UK neithiwr (nos Sul, Mehefin 6).

Daeth Rakie Ayola i frig y categori Actores Gynorthwyol Orau am chwarae cymeriad y fam yn y ffilm Anthony, sy’n adrodd hanes go iawn llofruddiaeth Anthony Walker, llanc croenddu o Lerpwl.

Mae’r gyfres yn ceisio darogan sut fywyd fyddai e wedi ei gael pe na bai e wedi cael ei lofruddio.

Ac fe gipiodd Tŷ am Ddim (The Great House Giveaway) gan gwmni Chwarel wobr am y Rhaglen Ddydd Orau.

Fe ddaeth honno i’r brig wrth guro The Chase (ITV), Jimmy McGovern’s Moving On (BBC) a Richard Osman’s House of Games (BBC).

Fel rhan o’r gyfres, mae dau berson yn cael tŷ am ddim i’w adnewyddu am chwe mis, gyda’r cystadleuwyr yn cael cadw unrhyw elw.

Wrth dderbyn y wobr mewn seremoni ar-lein a gafodd ei darlledu gan y BBC, siaradodd y cynhyrchydd Sioned Morris yn Gymraeg.

“Dyma’r cyd-gomisiwn cyntaf rhwng S4C a Channel 4 ac mae’n fodel cynhyrchu sydd wedi gweithio’n arbennig o dda,” meddai Llinos Wynne, Comisiynydd Ffeithiol S4C.

“Mewn modd adloniannol, mae Ty Am Ddim yn mynd i galon un o bynciau cymdeithasol mawr ein cyfnod, sef helpu pobl ifanc i wireddu eu breuddwydion i fod yn berchen ar dŷ eu hunain, ac rydym eisoes yng nghanol ffilmio yr ail gyfres.

“Llongyfarchiadau mawr i Gwmni Chwarel a’r holl dîm cynhyrchu.”

Dyma’r ail wobr ddarlledu genedlaethol i S4C ei hennill mewn ychydig dros wythnos.

Ar Fai 27, llwyddodd cynhyrchiad Dim Ysgol: Maesincla i ennill gwobr Broadcast am y cynhyrchiad gorau yn ystod y cyfnod clo.

Hefyd, enillodd y gyfres boblogaidd Casualty, sy’n cael ei ffilmio yng Nghaerdydd, wobr yr Opera Sebon a Drama Barhaus Orau.

Mae modd gweld rhestr lawn o’r holl enillwyr yma.