Bydd saith ffilm fer gan ddramodwyr newydd yn cael eu dangos am y tro cyntaf y mis yma fel rhan o bartneriaeth rhwng Frân Wen, yr Eisteddfod Genedlaethol a Llenyddiaeth Cymru.
Dyma fydd y tro cyntaf i waith rhaglen Sgwennu Newydd Frân Wen, rhaglen sy’n cefnogi dramodwyr newydd yn y Gymraeg. gael ei rannu.
Bydd y ffilmiau’n cael eu darlledu bob nos rhwng Mehefin 9 a 11 ar blatfform AM.
Bwriad y ffilmiau yw ehangu’r ystod o leisiau sy’n cael eu clywed ar lwyfannau, creu gwaith newydd, a darganfod a meithrin artistiaid newydd.
Y saith dramodydd yw Joseff Owen, Mared Llywelyn, Lowri Morgan, Nia Morais, Ifan Pritchard, Iwan Davies a Ciaran Fitzgerald.
Mae’r dramâu yn trafod amryw o bynciau, megis yr argyfwng ail gartrefi, perthynas dwy chwaer a Chymru ôl-bandemig lle mae gwrthyfel a’r Gymraeg dan warchae.
“Ehangu ystod o leisiau”
“Ein bwriad yw ehangu’r ystod o leisiau a glywir ar draws ein llwyfannau, creu gwaith newydd cyffrous a darganfod a meithrin artistiaid newydd,” meddai Gethin Evans, Cyfarwyddwr Artistig Frân Wen.
“Mae’r criw wedi datblygu gwaith gonest, perthnasol a phwysig sy’n wirioneddol gynrychioli lleisiau ifanc amrywiol Cymru gyfoes – a ni methu disgwyl rhannu’r gwaith.”
“Profiad i sgwennwyr ifanc”
“Mae’r bartneriaeth hon yn ffordd wych o feithrin ac o roi profiad i sgwennwyr ifanc o bob rhan o Gymru, ac ry’n ni’n hynod falch o fod yn rhan o’r prosiect,” dywedodd Betsan Moses, Prif Weithredwr yr Eisteddfod Genedlaethol.
“Mae’n cynnig cyfle ymarferol i bobl ifanc ddatblygu’u crefft ac ry’n ni’n credu fod safon y gwaith sydd wedi’i greu dros y misoedd diwethaf yn uchel eithriadol.
“Mae’n hollbwysig bod sefydliadau fel ni’n cydweithio er mwyn creu cyfleoedd gwerthfawr fel hyn i bobl ifanc ac ry’n ni’n edrych ymlaen at ddilyn gwaith y criw yma am flynyddoedd i ddod.”
“Gwaith beiddgar”
“Mae Llenyddiaeth Cymru yn hynod falch o gael bod yn rhan o raglen datblygu awduron newydd y Frân Wen mewn partneriaeth â’r Eisteddfod, a dyma’r uchafbwynt – gweld penllanw chwe mis o waith caled yn cael ei arddangos yn y fideos hyn,” meddai Lleucu Siencyn, prif weithredwr Llenyddiaeth Cymru.
“Gobeithio y cawn weld mwy o waith beiddgar gan yr awduron yn y dyfodol agos ac y bydd y criw amrywiol yma yn parhau i lywio agenda arloesol o fewn diwydiannau creadigol Cymru.”
Amserlen
9 Mehefin – Dŵr Dwfn gan Nia Morais am 7pm, Yorci gan Ifan Pritchard am 8pm
10 Mehefin – Rhywbeth Glas gan Lowri Morgan am 7pm, Hollol Wych gan Iwan Davies am 8pm
11 Mehefin – Stori’r Cennin gan Joseff Owen am 6pm, Tŷ Bach Twt gan Mared Llywelyn am 7pm, Blind Date gan Ciaran Fitzgerald am 8pm.
- Gallwch ddarllen mwy am y saith ffilm ar ap neu wefan AM.