Mae Plaid Cymru’n chwilio am brif weithredwr i arwain eu gweithwyr a “gyrru twf a datblygiad y blaid.”

Yn ddiweddar, cafoddd y blaid ei beirniadu gan y sylwebydd gwleidyddol, Richard Wyn Jones, ynghylch eu trefniadau a’u hymgyrchoedd.

Mewn darn diweddar i gylchgrawn Barn, disgrifiodd Richard Wyn Jones ganlyniadau etholiad Senedd Cymru i’r blaid fel “embaras ac yn siop siafins”.

Ychwanegodd fod y Blaid wedi ei chael hi’n “anodd” codi cwestiynau caled am ei hun dros y degawd diwethaf.

 

Fodd bynnag, fe wnaeth cyn-arweinydd y Blaid, Dafydd Wigley, herio sylwadau Richard Wyn Jones gan ddweud wrth golwg360 fod Plaid Cymru wedi “dysgu llawer iawn” o’i methiannau a’i llwyddiannau etholaethol.”

Bydd disgwyl i’r Prif Weithredwr chwarae rhan hanfodol wrth lywodraethu a rheoli’r blaid.

Yn ogystal bydd y Prif Weithredwr yn ganolog ar gyfer cyfathrebu gydag aelodau, canghennau, etholaethau ac adrannau, a grŵpiau etholedig y Blaid yn y Senedd ac yn San Steffan.

Yn ôl y swydd ddisgrifiad “bydd y Prif Weithredwr yn sicrhau bod strategaethau a strwythurau priodol mewn lle i sbarduno twf y blaid – drwy ehangu aelodaeth a datblygu cefnogaeth a chydweithrediad gan grŵpiau a sectorau o gymdeithas yng Nghymru”.

Plaid Cymru wedi dysgu “llawer iawn” o’i methiannau dros y blynyddoedd

Iolo Jones

Yr hoelen wyth, Dafydd Wigley, yn rhannu ei farn â golwg360 am y feirniadaeth ddiweddar o ran ymgyrch etholiadol y Blaid