Bydd aelodau o Gymdeithas yr Iaith yn cerdded dros 30 milltir gan ddilyn llwybr Mari Jones i gyrraedd rali ‘Nid yw Cymru ar Werth’.
Dros dridiau, bydd y criw o Geredigion yn cerdded o Lanfihangel y Pennant i Gapel Celyn, uwchben pentref Frongoch, ger Y Bala, Gwynedd gan gyrraedd argae Llyn Celyn ar gyfer y rali ar Gorffennaf 10
Mae’r ardal yn aml yn cael ei alw’n Tryweryn ar ôl yr afon sy’n llifo i’r llyn.
Mae disgwyl y bydd cannoedd o bobol yn dod ynghyd er mwyn ffurfio argae dynol ar draws y llyn, gan bwysleisio eu hawl i fyw adra.
“Rydyn ni’n gobeithio y bydd e, ynghyd â’r rali, yn codi ymwybyddiaeth o’r sefyllfa, ac yn ychwanegu at y pwysau drwy ddangos ein hymrwymiad i weld newid yn y sefyllfa tai,” meddai Jeff Smith, cadeirydd rhanbarth Ceredigion o Gymdeithas yr Iaith, wrth golwg360.
Dyfalbarhad
Penderfynodd y mudiad ddewis taith Mari Jones gan ei bod hi’n daith “nodweddiadol”, ac er mwyn adlewyrchu ei dyfalbarhad.
Yn 1800, cerddodd Mari Jones, a oedd yn ferch 15 oed ar y pryd, yn droednoeth am 26 milltir er mwyn prynu copi o’r Beibl gan Thomas Charles yn y Bala.
Yn ôl traddodiad, dyma’r digwyddiad a wnaeth ysbrydoli sefydlu Cymdeithas y Beibl yn 1804.
“Oherwydd ei bod hi’n daith eithaf nodweddiadol, yn daith enwog o ran dyfalbarhad… ac oherwydd ei bod hi’n mynd tua’r Bala, hynny yw tua Thryweryn,” eglurodd Jeff Smith wrth esbonio pam eu bod nhw wedi dewis y daith o Lanfihangel y Pennant i’r Bala.
“Mae’r niferoedd yn codi trwy’r amser,” meddai Jeff Smith ynghylch y niferoedd sy’n debygol o ymuno ar y daith.
“Mae rhai ohonyn nhw ond am ymuno â’r rhan olaf, dw i’n credu y byddwn ni’n cael o leiaf ugain, ella mwy.
‘Gweithredu’
“Mae tipyn o bobol wedi dweud eu bod nhw’n bwriadu ymuno â ni, os ddim am y daith gyfan, am o leiaf rhan ohoni.
“Rydyn ni eisiau gweld gweithredu, rydyn ni clywed rywfaint o eiriau erbyn hyn, ond rydyn ni eisiau gweld gweithredu.”
Bydd Delyth Jewell AS, Ciaran Ireland, Dafydd Iwan, a Branwen Niclas, a gafodd ei charcharu am ymgyrchu dros Ddeddf Eiddo’r Gymdeithas, yn annerch y dorf ar y diwrnod.
Bydd y cefnogwyr yn llofnodi galwad yn mynnu fod Llywodraeth Cymru’n “gweithredu ar frys ac mewn modd radical i sicrhau fod cymunedau lleol yn gallu rheoli’r farchnad dai a’r broses gynllunio i sicrhau cartrefi i’w pobol”.
Fe fydd y criw yn dechrau cerdded ar Gorffennaf 8 o Lanfihangel i’r Brithdir, yna o Brithdir i’r Bala ar Gorffennaf 9, cyn cerdded yr ychydig filltiroedd olaf o’r dref at Lyn Tryweryn ar fore’r dydd Sadwrn, 10 Gorffennaf.
Mae croeso i unrhyw un ymuno â nhw, ond mae’n rhaid rhoi gwybod i Gymdeithas yr Iaith erbyn Mehefin 11, fan bellaf.