Bydd cefnogwyr Cymdeithas yr Iaith yn ffurfio “argae dynol” fel arwydd o benderfyniad y mudiad i atal chwalfa cymunedau Cymru yn sgil yr argyfwng tai.

Mae disgwyl i gannoedd o bobol ddod ynghyd ar argae Tryweryn ger Y Bala am 1pm brynhawn Sadwrn, Gorffennaf 10.

Bydd y cefnogwyr yn llofnodi galwad yn mynnu fod Llywodraeth Cymru’n “gweithredu ar frys ac mewn modd radical i sicrhau fod cymunedau lleol yn gallu rheoli’r farchnad dai a’r broses gynllunio i sicrhau cartrefi i’w pobol”.

Bydd Dafydd Iwan, Delyth Jewell AS, a Cian Ireland, ymgeisydd y Blaid Lafur yn etholaeth Dwyfor Meirionnydd yn etholiadau’r Senedd eleni, yn annerch y dorf.

Yn ymuno â nhw, bydd Branwen Niclas, a gafodd ei charcharu am ddeuddeg mis 30 mlynedd yn ôl am ei rhan yn ymgyrch Deddf Eiddo y Gymdeithas.

“Cymunedau yn cael eu chwalu”

“Fedrwn ni ddim aros am ddegawdau eto i gael gweithredu pendant gan y Llywodraeth: mae’n cymunedau yn cael eu chwalu wrth i bobl ifanc gael eu gorfodi i symud gan fod cyfran mor fawr o’r tai yn cael eu prynu am brisiau chwyddedig gan bobl gyfoethocach, sy’n aml yn eu defnyddio fel tai gwyliau neu ail gartrefi; ni fydd lawer o ddyfodol i’r Gymraeg heb gymunedau cadarn,” meddai Osian Jones, llefarydd ar ran ymgyrch ‘Nid yw Cymru ar werth’ Cymdeithas yr Iaith.

“Yfory (Dydd Gwener, 21 Mai), byddwn yn cychwyn cyfri lawr 50 diwrnod at ddyddiad y rali, ac yn cyhoeddi bob dydd enwau pobl amlwg a fydd yn dod i’r rali i lofnodi’r galwad ar y Llywodraeth newydd.

“Mae Mark Drakeford eisoes wedi addo gweithredu i atal yr anghyfiawnder, a bydd y Gymdeithas yn ymgyrchu i sicrhau mai cyfres o gamau radicalaidd i daclo’r sefyllfa a gymerir, yn hytrach na mesurau gwag. Tydy’n cymunedau ddim yn gallu aros ddim mwy.”

Daw hyn wedi i Gapel Tom Nefyn ym Mhistyll, Pen Llŷn, gael ei werthu mewn ocsiwn am £257,000, ac wrth i Gyngor Tref Nefyn alw ar gynghorau’r gorllewin i ddod ynghyd er mwyn mynd i’r afael â’r sefyllfa.